Gyda chyllid gan y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Dysgu Cymraeg, mae ColegauCymru yn cydlynu prosiect Gwaith Cymraeg addysg bellach ar gyfer y sector colegau addysg bellach.

work-welsh-fe.png

Nod y prosiect yw datblygu sgiliau Cymraeg darlithwyr mewn colegau addysg bellach. Drwy weithio gydag o leiaf 210 o ddarlithwyr mewn addysg bellach ledled Cymru mi fydd pob unigolyn sy'n rhan o'r cynllun yn cwblhau 120 awr o Gymraeg. At ddibenion y prosiect hwn, ac er mwyn cyflawni ein hamcan o gynyddu darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn y sector, yr ydym yn gofyn bod 80% o'r rhai sy'n dilyn y prosiect yn y Colegau yn staff academaidd, felly darlithwyr neu aseswyr.

Mae'r prosiect hwn yn briodol ar gyfer pob lefel, gyda dosbarthiadau a thiwtoriaid iaith ar gael i gynorthwyo'r rhai sy'n ddysgwyr newydd, sydd heb hyder neu yn rhugl i ddefnyddio mwy o Gymraeg yn y gweithle. Er bod y nod cyffredinol yr un fath, bydd y prosiect yn amrywio rhwng colegau gan fod natur y prosiect yn caniatáu i golegau ei addasu i weddu i'w hanghenion unigol ac anghenion penodol.

Os ydych chi'n gweithio mewn coleg addysg bellach yng Nghymru, manteisiwch ar y cyfle i fod yn rhan o'r prosiect hwn trwy gysylltu â'ch adran Adnoddau Dynol neu'r Hyrwyddwr Dwyieithog yn y coleg. Am wybodaeth gyffredinol neu am ragor o wybodaeth am y prosiect, cysylltwch â Nia Brodrick nia.brodrick@colegaucymru.ac.uk

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.