Ein gweledigaeth yw addysg o'r radd flaenaf i Gymru. Ein cenhadaeth yw dangos gwerth addysg bellach i bob dysgwr, y gymdeithas a'r economi. Rydym yn ymfalchïo mewn darparu gwasanaethau o ansawdd uchel i'n rhanddeiliaid. Ond dim ond gydag ymrwymiad a gwaith caled ein tîm rhagorol o staff y gallwn wneud hyn.
Mae ColegauCymru yn cynnwys tîm bach o unigolion brwdfrydig a medrus ac mae gan y sefydliad brofiad helaeth yn y sector addysg bellach yng Nghymru.
Ar hyn o bryd rydym yn recriwtio ar gyfer 3 swydd:
- Swyddog Polisi
- Ymddiriedolwr x 2
Swyddog Polisi
Contract: Llawn amser, cyfnod penodol (12 mis) (Ystyrir rhannu swydd/rhan amser)
Cyflog: £32,859 - £36,073 (pro rata)
Lleoliad: Cyfuniad o weithio mewn swyddfa (Caerdydd) a gweithio gartref
Dyddiad Cau: 21 Mai 2024
Trosolwg o'r Rôl
Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig i ymgymryd â rôl polisi a materion cyhoeddus cyffrous yn y sector addysg bellach a dysgu seiliedig ar waith.
O dan gyfarwyddyd y Cyfarwyddwr Polisi a Materion Cyhoeddus, bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn helpu i hyrwyddo budd addysg a hyfforddiant ôl-orfodol yng Nghymru, gan helpu i ddatblygu amcanion polisi allweddol ColegauCymru a dylanwadu ar y rhai sy’n gwneud penderfyniadau allweddol gan gynnwys Llywodraeth Cymru. Bydd y Swyddog Polisi yn dod ag arbenigedd mewn datblygu polisi a dadansoddi gwleidyddol yn ogystal ag ymrwymiad i lwyddiant addysg a hyfforddiant ôl-16 yng Nghymru a gwaith y sefydliad yn ei gyfanrwydd. Bydd deiliad y swydd yn cyflwyno strategaethau dylanwadu ar draws prif flaenoriaethau polisi’r sefydliad ac yn helpu i godi proffil ColegauCymru ac eirioli ansawdd darpariaeth addysg bellach yng Nghymru.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cynrychioli colegau addysg bellach ar lwyfan cenedlaethol, gan weithio’n agos gydag Aelodau Seneddol yn y Senedd a swyddogion Llywodraeth Cymru. Mae hyn yn cynnwys cyfarfod a briffio llefarwyr pleidiau gwleidyddol perthnasol ac aelodau o Bwyllgorau allweddol y Senedd, yn ogystal â chynnal gwaith ymchwil, dadansoddi (ansoddol a meintiol), a helpu i ddatblygu argymhellion polisi cyhoeddus. Byddant hefyd yn gallu gweithio ar eu liwt eu hunain yn ogystal fel rhan o dîm, a bydd ganddynt sgiliau cyfathrebu rhagorol a'r gallu i ffurfio perthnasoedd gwaith cadarnhaol.
Mae hwn yn gyfle hybrid a fydd yn gofyn i’r ymgeisydd llwyddiannus weithio’n rheolaidd o swyddfeydd ColegauCymru yng Nghaerdydd, felly mae’r gallu i gymudo yma yn hanfodol. Efallai y bydd angen parodrwydd i deithio ledled Cymru, o fewn y DU ac yn rhyngwladol weithiau, a gweithio y tu allan i oriau gwaith arferol hefyd.
Swyddog Polisi - Swydd Ddisgrifiad
Gweithio i ColegauCymru - Gwybodaeth Ychwanegol
Ymgeisio am y swydd hon
Anfonwch CV sy'n dangos sut rydych chi'n bodloni’r Manyleb Person, ynghyd â llythyr eglurhaol byr sy'n mynd i'r afael â'r cwestiynau isod. Ni ddylai'r ateb i bob cwestiwn fod yn fwy na 500 gair.
- Beth ydych chi’n meddwl yw’r prif faterion polisi sy’n wynebu’r sectorau addysg bellach a dysgu seiliedig ar waith yn benodol yn y 12-18 mis nesaf?
- Sut ydych chi'n meddwl y dylai ColegauCymru geisio mynd i'r afael â'r materion hyn?
- Beth yw'r prif gyfleoedd a rhwystrau?
Dylid cyflwyno ceisiadau drwy e-bost i HR@ColegauCymru.ac.uk
Dyddiad Cau
Y dyddiad cau ar gyfer y swydd wag hon yw 21 Mai am 12.00pm.
Cyfweliadau
Cynhelir cyfweliadau ar 06 Mehefin 2024 yn Nhongwynlais, Caerdydd
Sylwch y gall yr ymgeisydd llwyddiannus fod yn destun gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
Rydyn ni'n chwilio am ymddiriedolwyr newydd!
Mae ColegauCymru yn elusen addysg ôl-16. Credwn fod gan bob dysgwr yr hawl i addysg o'r radd flaenaf, a ddarperir mewn lleoliad diogel, amrywiol a chynhwysol ac o fewn sector addysg bellach sy'n cefnogi'r gymuned ehangach, cyflogwyr a'r economi.
Rydym yn falch o fod yn tyfu ac yn arallgyfeirio ein Bwrdd Ymddiriedolwyr. Mae ymddiriedolwyr yn ein helpu i gyfrif am ddefnyddio tanysgrifiadau elusennol ein haelodau a'r grantiau a dderbyniwn gan amrywiaeth o gyllidwyr allanol fel Llywodraeth Cymru a'r DU.
Mae'r swyddi gwag presennol yn ceisio pobl i gynrychioli budd ehangach y cyhoedd mewn addysg ôl-16 ochr yn ochr â barn yr aelodau a'u cyrff llywodraethu.
Ar hyn o bryd rydym am recriwtio dau aelod.
Am beth rydyn ni'n chwilio amdano?
Mae gennym ddwy swydd wag i ymuno â grŵp llawn cymhelliant sydd eisoes yn gweithio'n galed i gael effaith, cefnogi buddiannau ein colegau sy'n aelodau a hyrwyddo budd ehangach addysg ôl-16 a dysgu gydol oes.
Rydym yn awyddus i barhau i adeiladu ar y gwaith da hwn ac rydym am ehangu ystod arbenigedd a phrofiad Bwrdd yr Ymddiriedolwyr a chynyddu amrywiaeth meddwl a her adeiladol.
Os ydych chi'n ymddiriedolwr, neu'n gyn-ymddiriedolwr a/neu'n hyrwyddwr llywodraethu ac arweinyddiaeth dda yn y sector cyhoeddus, preifat neu wirfoddol, hoffem glywed gennych! Ond rydym yr un mor awyddus i glywed gan ymgeiswyr a allai fod â phrofiad diweddar fel dysgwr addysg bellach mewn coleg neu fel prentis.
Swyddi Ymddiriedolwyr - Gwybodaeth Ychwanegol
Sut i Wneud Cais
Anfonwch eich ffurflen gais at y Rheolwr Swyddfa a Llywodraethiant, Rachel Rimanti. Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os hoffech drafod y cyfle hwn ymhellach, cysylltwch a David Hagendyk, Prif Weithredwr ColegauCymru. Gellir cysylltu David drwy Rachel Rimanti.
Dylid e-bostio ceisiadau i: Rachel.Rimanti@ColegauCymru.ac.uk
Dyddiad Cau: Dydd Gwener 10 Mai 2024, 5.00yh
Dyddiad Cyfweliad: 22 Mai 2024
Gwybodaeth Bellach
Am ragor o wybodaeth am y gwaith y mae ColegauCymru yn ei wneud, ewch i'n gwefan a dilynwch ni ar Twitter