Gweithdrefn ar gyfer cwynion yn Gymraeg ac yn Saeneg
Sut mae ColegauCymru yn delio â chwynion
Ar dderbyn cwyn, bydd ColegauCymru yn parchu hawl yr unigolyn i gyfrinachedd a phreifatrwydd, ac yn trin yr unigolyn yn deg ac yn unol â’n hymrwymiad i gydraddoldeb.
Gweithdrefn:
- Byddwn yn cydnabod y gŵyn o fewn 5 diwrnod gwaith i'r dyddiad y'i derbynnir;
- Byddwn yn anelu at ddatrys y gŵyn o fewn 20 diwrnod gwaith;
- Byddwn yn gwneud yr achwynydd o fewn y cyfnod o 20 diwrnod gwaith os ydym yn credu y gallai gymryd mwy o amser i ymchwilio i'r gŵyn.
O dan Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011, bydd ColegauCymru yn ymateb i unrhyw gwynion yn ymwneud â’r Gymraeg yn yr un modd ag uchod.
Ni fydd cwynion a dderbynnir trwy gyfrwng y Gymraeg yn arwain at oedi wrth ymateb.
Bydd ColegauCymru yn rhoi gwybod i’r unigolyn manylion graddfeydd amser perthnasol ac yn darparu diweddariadau rheolaidd.
Dylid anfon cwynion ysgrifenedig at helo@colegaucymru.ac.uk