Llais addysg bellach yng Nghymru
Elusen addysg sy'n hyrwyddo budd cyhoeddus addysg bellach yng Nghymru yw ColegauCymru. Credwn fod gan bob dysgwr yr hawl i addysg o safon fyd-eang, a ddarperir mewn lleoliad diogel, amrywiol a chynhwysol ac o fewn sector sy'n cefnogi'r gymuned ehangach, cyflogwyr a'r economi.
Rydym hefyd yn ymgynnull Fforwm Penaethiaid Addysg Bellach, sy’n cynrychioli buddiannau darparwyr addysg bellach.
Rydym yn ymgymryd ag ymchwil a datblygu polisi ac yn darparu cefnogaeth ymarferol i'r gymuned addysg bellach. Gan weithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru, eu hasiantaethau, a rhanddeiliaid eraill, rydym yn helpu i lunio polisïau sy'n effeithio ar y sector AB, eu dysgwyr a'u staff.
ColegauCymru yw'r pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer addysg bellach yng Nghymru.