Ein gweledigaeth yw addysg o'r radd flaenaf i Gymru. Ein cenhadaeth yw dangos gwerth addysg bellach i bob dysgwr, y gymdeithas a'r economi. Rydym yn ymfalchïo mewn darparu gwasanaethau o ansawdd uchel i'n rhanddeiliaid. Ond dim ond gydag ymrwymiad a gwaith caled ein tîm rhagorol o staff y gallwn wneud hyn.
Mae ColegauCymru yn cynnwys tîm bach o unigolion brwdfrydig a medrus ac mae gan y sefydliad brofiad helaeth yn y sector addysg bellach yng Nghymru.
Cynorthwyydd Gweithredol
Math o Gontract: Llawn amser, parhaol (Ystyrir rhannu swydd)
Cyflog: £25,567 - £28,237, pro rata
Lleoliad: Cyfuniad o swyddfa (Caerdydd) a gweithio gartref
Dyddiad Cau: 16 Hydref 2023
Trosolwg o'r Rôl
Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig i ymgymryd â rôl Cynorthwyydd Gweithredol gyffrous a heriol yn y sector addysg bellach a dysgu seiliedig ar waith.
Gan weithio'n agos â'r Rheolwr Swyddfa a Llywodraethiant, bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am weinyddu'r busnes mewnol a chefnogi'r Prif Weithredwr, aelodau'r UDRh, is-bwyllgorau, a'r Swyddfa a'r Rheolwr Llywodraethiant.
Bydd y rôl hon yn darparu safon uchel o ofal i gwsmeriaid sy'n delio â'r ystod lawn o randdeiliaid, ymholiadau dros y ffôn ac e-bost. Bydd y rôl hefyd yn cynnwys cefnogi cydweithwyr i ddarparu a gweinyddu ein cyfarfodydd pwyllgor amrywiol. Rydym yn chwilio am ymgeisydd gydag agwedd gallu gwneud a gyda sylw da i fanylion.
Mae hon yn rôl hybrid a bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus weithio o swyddfeydd ColegauCymru yng Nghaerdydd ac mewn gwahanol leoliadau coleg a sector, felly mae'r gallu i gymudo yn hanfodol. Efallai y bydd angen parodrwydd i deithio ar draws Cymru, o fewn y DU ac yn rhyngwladol o bryd i'w gilydd, a gweithio y tu allan i oriau gwaith arferol.
Cynorthwyydd Gweithredol - Disgrifiad Swydd
Gweithio i ColegauCymru - Gwybodaeth Berthnasol Ychwanegol
Ffurflen Cydraddoldeb a Monitro
Ymgeisio am y Swydd
Rydym yn croesawu ceisiadau yn Gymraeg neu yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.
Dylid cyflwyno ceisiadau trwy e-bost i HR@colegaucymru.ac.uk
Dyddiad Cau
Y dyddiad cau ar gyfer y swydd hon yw 12.00pm ar 16 Hydref 2023.
Cyfweliadau
Cynhelir cyfweliadau wythnos yn dechrau 23 Hydref 2023.
Sylwch y gall yr ymgeisydd llwyddiannus fod yn destun gwiriad Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
I ddarganfod mwy am swyddi yn y sector, ewch i wefan Addysgwyr Cymru
Os yr ydych am gymryd y cam cyntaf neu symud ymlaen i'r cam nesaf yn eich gyrfa addysg, Addysgwyr Cymru yw'r lle i chi gael mynediad i wybodaeth, hyfforddiant a chyfleoedd gyrfaol i'ch tywys yno.
Ble bynnag yr ydych ar eich taith, rydym ni yma i'ch helpu i fod yr addysgwr gorau y gallwch fod ac i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o ddysgwyr yng Nghymru.