pexels-cottonbro-studio-4065876.jpg

Mae ColegauCymru yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau aliniad parhaus rhwng FfCCh a'r fframweithiau cymhwyster eraill yn y DU ac yn rhyngwladol. Rydym hefyd yn darparu mewnbwn a chyngor arbenigol i Grŵp Cynghori FfCChC ar fframweithiau cymhwyster a gweithgarwch cysylltiedig megis Cydnabod Dysgu Blaenorol (RPL) a dilysu dysgu anffurfiol a dysgu heb fod yn ffurfiol (VIFNFL). 

Arweiniodd ColegauCymru y gwaith o gyfeirio FfCChC at y Fframwaith Cymwysterau Ewropeaidd (EQF) ac mae’n cadw llygad ar ddull y DU o gyfeirio’n rhyngwladol yn y dyfodol nawr bod y DU wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd. 

Mae ColegauCymru yn mynychu cyfarfod blynyddol y Pum Gwlad (Cymru, Lloegr, yr Alban, Gogledd Iwerddon a Gweriniaeth Iwerddon) i roi a derbyn diweddariadau ar gymwysterau a fframweithiau. 

Mae ColegauCymru wedi cynhyrchu adroddiadau ar y canlynol: 

  • y defnydd o RPL gyda mudwyr gorfodol 
  • dadansoddiad o farn rhanddeiliaid am FfCChC 
  • ymatebion i argymhellion adolygiad 2014 

Mae ymchwil wedi’i wneud ond heb ei gyhoeddi i nodi: 

Gwybodaeth Bellach 

Adrian Sheehan a Phil Whitney yw'r prif gysylltiadau ar gyfer FfCChC mewn colegau addysg bellach yng Nghymru. 

Adrian.Sheehan@ColegauCymru.ac.uk
Phil.Whitney@ColegauCymru.ac.uk

Tudalennau Cysylltiedig

Fframweithiau Cymwysterau 

Cydnabod Dysgu Blaenorol 

Adnoddau CDB  

CDB gydag ymfudwyr gorfodol ac eraill

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.