Tîm ColegauCymru
Staff

Prif Weithredwr
David Hagendyk
Amdan David Hagendyk
David.Hagendyk@ColegauCymru.ac.uk
Mae David wedi gweithio mewn swyddi arwain, ymgyrchu a datblygu polisi yng Nghymru am y deunaw mlynedd diwethaf. Ymunodd â ColegauCymru ym mis Hydref 2022, ar ôl treulio saith mlynedd yn Sefydliad Dysgu a Gwaith Cymru fel Cyfarwyddwr Cymru.
Cyn ymuno â Sefydliad Dysgu a Gwaith Cymru, bu hefyd yn gweithio am saith mlynedd fel Ysgrifennydd Cyffredinol Llafur Cymru. Cyn hyn bu’n Swyddog Cyswllt Gwleidyddol ar gyfer Undeb Prifysgolion a Cholegau Cymru, fel Pennaeth Polisi Llafur Cymru, ac mae wedi gweithio fel ymchwilydd i Huw Lewis AC a Lynne Neagle AC.

Cyfarwyddwr Cyllid
Carolyn Thomas
Amdan Carolyn Thomas
Carolyn.Thomas@ColegauCymru.ac.uk
Mae Carolyn wedi gweithio yn y sector addysg bellach er 1991, wedi cyfnod yn gweithio fel cyfrifydd coleg bach.
Mae hi wedi gweithio fel Cyfarwyddwr Cyllid ColegauCymru ers 2004 ac mae'n gymrawd o'r ACCA.

Cyfarwyddwr Datblygu
Kelly Edwards
Amdan Kelly Edwards
Kelly.Edwards@ColegauCymru.ac.uk
Mae Kelly yn arwain Rhaglen Ddatblygu ColegauCymru gyda’r uchelgais o gyfoethogi'r profiad dysgu a gwella canlyniadau dysgu ar gyfer y sector addysg bellach. Mae hi’n gweithio gyda’r Fforwm Penaethiaid a Phrif Weithredwyr a’r Bwrdd Cyfarwyddwyr i sicrhau bod y Rhaglen yn cyd-fynd â gweledigaeth a chenhadaeth yr elusen.

Cyfarwyddwr Polisi a Materion Cyhoeddus
Rachel Cable
Amdan Rachel Cable
Rachel.Cable@ColegauCymru.ac.uk
Mae Rachel Cable yn arwain Tîm Polisi a Materion Cyhoeddus ColegauCymru, gan sicrhau bod ein gwaith yn cyd-fynd ag amcanion strategol y sefydliad.
Cyn ymuno ColegauCymru, treuliodd Rachel 15 mlynedd yn gweithio ym maes polisi, ymgyrchoedd ac eiriolaeth yng Nghymru, gan gynnwys i Prifysgolion Cymru, a chydlynu ymgyrchoedd ar gyfer Aelod Seneddol. Bu Rachel hefyd yn bennaeth tîm amlddisgyblaethol Oxfam Cymru ar draws polisi, eiriolaeth, y cyfryngau, ac addysg, gan gynnwys cadeirio’r Pwyllgor Argyfwng Trychinebau Cymru.
Ochr yn ochr â’r rolau hyn, mae Rachel yn llywodraethwr ysgol ac wedi gweithredu fel ymddiriedolwr elusen ar gyfer undeb myfyrwyr.


Rheolwr Prosiect - Ewropeaidd a Rhyngwladol
Siân Holleran
Amdan Siân Holleran
Sian.Holleran@ColegauCymru.ac.uk
Ymunodd Siân â CholegauCymru fel Cydlynydd Ewropeaidd a Rhyngwladol ym mis Tachwedd 2010. Mae ei phrif feysydd gwaith yn cynnwys cydlynu rhaglen o gyfleoedd hyfforddiant tramor i staff, dysgwyr a phrentisiaid, gan weithredu dros Lywodraeth Cymru fel Pwynt Cyswllt Cenedlaethol ar gyfer mentrau'r UE a gwerthu Cymru i'r byd trwy weithio ar y cyd gyda phartneriaid rhyngwladol.
Mae Siân yn rhugl mewn Ffrangeg, Sbaeneg a Chymraeg. Gynt bu'n gweithio i CILT Cymru, y ganolfan genedlaethol ar gyfer ieithoedd, gan hyrwyddo dysgu ieithoedd modern fel sgil gwerthfawr i bobl ifanc mewn byd sy'n gynyddol fyd-eang. Mae Siân yn parhau i rannu ei chariad at ieithoedd a diwylliannau gwledydd eraill trwy hyrwyddo buddion treulio cyfnodau o amser yn astudio neu'n gweithio dramor i bobl ifanc. Mae hi hefyd yn cynrychioli'r sector addysg bellach ar y grŵp llywio Llwybrau i Ieithoedd Cymru.

Rheolwr Prosiect - Chwaraeon a Lles
Rob Baynham
Amdan Rob Baynham
Rob.Baynham@ColegauCymru.ac.uk
Gyda dros 20 mlynedd o brofiad yn y sector addysg bellach, mae Rob wedi bod yn ymwneud ag amrywiaeth eang o fentrau a phrosiectau rhanbarthol a chenedlaethol gyda’r ffocws presennol yn symud tuag at ddatblygu Lles Actif a chyfleoedd chwaraeon mewn addysg bellach.
Fel Rheolwr Prosiect ar gyfer Lles Actif ar gyfer addysg bellach yng Nghymru, mae cyfrifoldebau Rob yn cynnwys rheoli Chwaraeon Colegau Cymru a datblygu cyfranogiad, gwirfoddoli a llwybrau chwaraeon i fyfyrwyr. Ers i Rob ymuno â ColegauCymru yn 2014, mae 4,000+ o ddysgwyr addysg bellach ychwanegol y flwyddyn wedi cymryd rhan mewn gweithgaredd newydd ar fentrau amrywiol gyda phartneriaethau, digwyddiadau, systemau a phrosiectau newydd yn cael eu cyflwyno.
Mae codi proffil chwaraeon Addysg Bellach a Lles Actif yn parhau i fod yn flaenoriaeth ar gyfer y gwaith hwn.

Swyddog Cyllid
Gill Barclay
Amdan Gill Barclay
Gill.Barclay@ColegauCymru.ac.uk
Mae Gill yn gweithio fel Swyddog Cyllid ColegauCymru. Yn ychwanegol i'r rôl hon, mae hi'n darparu cymorth technoleg gwybodaeth ac yn rheoli cyfleusterau'r sefydliad.

Arweinydd Trawsnewid Anghenion Dysgu Ychwanegol (AB)
Chris Denham
Amdan Chris Denham
Chris.Denham@ColegauCymru.ac.uk
Dechreuodd Chris ei yrfa'n gweithio yn y diwydiant adeiladu yn Surrey, cyn cwblhau ei Dystysgrif Addysg yng ngholeg Polytechneg Huddersfield ac yna symud i Bont-y-pŵl ar gyfer swydd ddarlithio yn adran dechnoleg y coleg. Roedd Chris yn allweddol i sefydliad y cyrsiau cyswllt anghenion arbennig cyntaf gydag Ysgol Arbennig Crownbridge ar ddiwedd y 1980au ac ar ôl rhywfaint o ailhyfforddi, datblygodd raglen anghenion arbennig amser llawn, newydd ym Mhont-y-pŵl. Wrth i'r ddarpariaeth hon dyfu, cydnabu'r angen am gymorth yn y prif ffrwd ac felly ennillodd gymhwyster ychwanegol mewn anawsterau dysgu penodol a sefydlodd ganolfan gymorth yn y coleg.
Ar ôl ymgorffori a chreu Coleg Gwent, gwnaeth Chris sawl swydd reoli cyn derbyn swydd Rheolwr Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) yng Ngholeg Gwent yn 2014. Yn ystod y cyfnod hwn, cynrychiolodd y coleg hefyd ar Rwydwaith ADY ColegauCymru, gan gyflawni rôl Cadeirydd o 2014.
Mae Chris wedi gweithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru dros y pedair blynedd diwethaf i helpu i lunio Deddf a Chôd Ymarfer Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (ALNET). Derbyniodd ei swydd bresennol gyda CholegauCymru ym mis Ionawr 2018 ac mae'n parhau i gefnogi colegau yng Nghymru wrth iddynt baratoi i weithredu ALNET.


Rheolwr Cyfathrebu
Lucy Hopkins
Amdan Lucy Hopkins
Lucy.Hopkins@ColegauCymru.ac.uk
Mae Lucy' rheoli ein gweithgareddau cyfathrebu a marchnata, yn unol ag amcanion strategol y sefydliad. Mae hi'n sicrhau bod ein cyfathrebiadau yn ddylanwadol, yn addysgiadol ac yn briodol i'n rhanddeiliaid.


Swyddog Polisi
Amy Evans
Amdan Amy Evans
Graddiodd Amy o Brifysgol Abertawe yn 2011 gyda gradd yn y Cyfryngau a Chyfathrebu. Yn dilyn 5 mlynedd yn y sector manwerthu, ymunodd â CholegauCymru fel Derbynnydd. Ym mis Mai 2017, dechreuodd rôl fel Cynorthwyydd Materion Cyhoeddus ac ers mis Mawrth 2020 mae wedi bod yn gweithio fel ein Swyddog Polisi. Mae Amy yn siaradwr Cymraeg rhugl.

Cynorthwyydd Polisi a Materion Cyhoeddus
Jamie Adair
Amdan Jamie Adair
Jamie.Adair@ColegauCymru.ac.uk
Ymunodd Jamie â thîm Polisi a Materion Cyhoeddus ColegauCymru o Gymdeithas Chwaraeon Cymru ym mis Ebrill 2022. Cyn hyn, graddiodd o Brifysgol Abertawe gydag MA mewn Gwleidyddiaeth a BA mewn Hanes.
Ei rôl yw cynrychioli sefydliadau addysg bellach ar lwyfan cenedlaethol, gan weithio’n agos ag Aelodau Seneddol a Swyddogion Llywodraeth Cymru, gan wneud gwaith ymchwil a dadansoddi i helpu i ddatblygu argymhellion polisi cyhoeddus.
Mae Jamie yn ddeiliad tocyn tymor Clwb Pêl-droed Abertawe ac mae'n ddilynwr chwaraeon brwdfrydig. Mae’n dilyn pêl-droed, tennis, dartiau, golff, snwcer a Fformiwla 1.


Rheolwr Swyddfa a Llywodraethu
Rachel Rimanti
Amdan Rachel Rimanti
Rachel.Rimanti@ColegauCymru.ac.uk
Mae Rachel yn rheoli prosesau a gweithdrefnau mewnol ColegauCymru. Hi hefyd yw'r prif gyswllt ar gyfer pob peth llywodraethu. Ymunodd Rachel â ColegauCymru ym mis Chwefror 2020 ac mae’n siarad Cymraeg yn rhugl.

Swyddog Prosiect
Vicky Thomas
Amdan Vicky Thomas
Vicky.Thomas@ColegauCymru.ac.uk
Ymunodd Vicky â ColegCymru yn 2022. Gan weithio fel Swyddog Prosiect yn y Tîm Datblygu, mae’n arwain ac yn rheoli ein gwaith rhyngwladol, gan gynnwys prosiectau Dysgwyr a Staff Erasmus+

Cynghorydd Strategol - DSW a Chyflogadwyedd
Jeff Protheroe
Amdan Jeff Protheroe
Jeff.Protheroe@ColegauCymru.ac.uk
Jeff yw'r pwynt cyswllt allweddol ar gyfer Llywodraeth Cymru a chyrff perthnasol eraill yn y sector. Mae’n cefnogi’r sefydliad i lunio ymatebion sector i gynigion polisi gan gynnwys newidiadau i ffrydiau ariannu, diwygio cymwysterau, datblygu’r cwricwlwm a chyfrannu at adolygiadau fframwaith prentisiaeth. Mae’n gwneud ymchwil i lunio a dylanwadu ar bolisi ac yn datblygu cysylltiadau agos ag arweinwyr mewn colegau i optimeiddio cydweithio ac atebion arloesol. Mae Jeff hefyd yn cynnull gweithgorau ac yn arwain ar ddatblygu a chyflwyno ceisiadau grant a chynigion perthnasol eraill am gyllid ar ran y sector AB i wella canlyniadau DYYG a chyflogadwyedd.
Cynorthwyydd Cyfathrebu a Digwyddiadau
Hollie Mitchell
Amdan Hollie Mitchell
Ymunodd Hollie â ColegauCymru ym mis Medi 2023, ar ôl graddio o Brifysgol Abertawe gyda BA yn y Cyfryngau a Chyfathrebu. Mae ei rôl fel Cynorthwyydd Cyfathrebu a Digwyddiadau yn cynnwys cefnogi’r sefydliad gyda digwyddiadau rhanddeiliaid, cyfryngau cymdeithasol a gweithgareddau marchnata.