Rydym yn gweithio gyda chynrychiolwyr o golegau a rhanddeiliaid ehangach i gasglu a rhannu arferion gorau presennol i ddatblygu'r cwricwlwm ILS a'r Rhaglen Ardal Ddysgu (LAP).
Mae’r cwricwlwm arfaethedig wedi’i seilio ar wella sgiliau cyfathrebu, sgiliau rhifedd a sgiliau llythrennedd digidol, gan ddatblygu sgiliau o dan bedair colofn ddysgu: sgiliau byw’n annibynnol, iechyd a llesiant, cymuned a chyflogadwyedd. Mae’r elfennau allweddol yn cynnwys yr angen i sicrhau ansawdd wrth asesu ac mewn dulliau tracio a monitro, a sicrhau bod y rheini’n drylwyr, ynghyd â dilyn dull sy’n canolbwyntio ar y person wrth osod targedau a dysgu. Y man cychwyn yw deall y dysgwr fel unigolyn, deall ei anghenion, a deall ei hynt posibl.
Dyma nod y gwaith:
- Newid sut y mae'r sector addysg bellach yn gweithio gyda dysgwyr yn y maes Sgiliau Byw’n Annibynnol er mwyn rhoi sylw i bryderon a fynegwyd mewn adroddiad thematig diweddar gan Estyn
- Rhoi cynnig ar ffyrdd newydd o asesu, gosod targedau a monitro cynnydd dysgwyr
- Diwygio a threialu dulliau newydd o gyflwyno’r cwricwlwm i ddysgwyr yn y maes Sgiliau Byw’n Annibynnol
- Annog colegau i gydweithio er mwyn datblygu a rhannu arferion da ac adnoddau
Un o brif elfennau’r prosiect fu’r rhwydweithio llwyddiannus rhwng colegau, a’u parodrwydd hael i rannu arferion da. Daeth ymarferwyr a’u rheolwyr ynghyd mewn dwy gynhadledd fywiog a phoblogaidd, er mwyn dangos gwaith y flwyddyn a rhannu arferion da. Themâu’r cynadleddi oedd defnyddio dysgu heb ei achredu yn y Cwricwlwm Sgiliau Byw’n Annibynnol, ac ailfeddwl ynghylch darpariaeth Sgiliau Byw’n Annibynnol ôl-16 yng Nghymru.
Mae adnoddau ar gael yn ganolog, a’r rheini’n cael eu rhannu drwy ddolen Padlet. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag Anne Evans, ymgynghorydd ColegauCymru, Anne Evans anne.evans@colegaucymru.ac.uk