Male hands with pen and paper.png

Bwrdd yr Ymddiriedolwyr

Bwrdd yr Ymddiriedolwyr sy’n gyfrifol ar y cyd am lwyddiant hirdymor yr elusen. Gwaith y Bwrdd yw penderfynu ar amcanion strategol y sefydliad, monitro perfformiad y rheolwyr yn unol â’r amcanion strategol hynny, sicrhau trefniadau llywodraethu da, asesu parodrwydd y sefydliad i gymryd risg, a sicrhau bod trefniadau cadarn yn bodoli i herio gwybodaeth a gwneud penderfyniadau doeth am berfformiad a hyfywedd yr elusen.

Yn dilyn adolygiad strategol o ColegauCymru, cynhaliwyd Cyfarfod Cyffredinol Eithriadol ar 18 Gorffennaf 2017. Yn y cyfarfod hwnnw, cymeradwyodd yr Aelodau newidiadau i strwythur cyfansoddiadol yr elusen ac i’w dogfen lywodraethu, a daeth y rhain i fod ar 1 Awst 2017.

Roedd y newidiadau'n golygu creu strwythur grŵp cynrychioladol newydd o fewn yr elusen, ac i hwnnw ei gylch gorchwyl ei hun sy’n canolbwyntio ar bolisïau a materion sy’n effeithio ar y sector addysg ôl-orfodol. Fforwm y Prif Weithredwyr/Penaethiaid yw’r enw ar hwn. O dan yr Erthyglau Cymdeithasu diwygiedig, penodir Cadeirydd a Dirprwy Gadeirydd Fforwm y Penaethiaid/Prif Weithredwyr yn Gadeirydd a Dirprwy Gadeirydd Bwrdd newydd yr elusen. Ar y Bwrdd, bydd lleiafswm o bump Ymddiriedolwr ac uchafswm o saith. Bydd y Cadeirydd a’r Dirprwy Gadeirydd yn gwasanaethu am ddwy flynedd sy’n cydredeg, tra gall yr Ymddiriedolwyr eraill wasanaethu am dair blynedd i ddechrau, gyda’r opsiwn i geisio cael eu hailbenodi am dymor pellach o dair blynedd.

Bwrdd Ymddiriedolwyr ColegauCymru

Gwybodaeth Gysylltiedig

Adroddiadau Blynyddol a Datganiadau Ariannol Cyfunol ColegauCymru Cyf a Fforwm Services Ltd

Comisiwn Elusennau Cymru a Lloegr
Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol Cyfunol CollegesWales/ColegauCymru Limited

Tŷ'r Cwmnïau
Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol Cyfunol CollegesWales/ColegauCymru Limited
Datganiadau Ariannol Fforwm Service Limited ar gyfer y Flwyddyn

Cod Ymddygiad Llywodraethu Corfforaethol

Polisi Cwynion ColegauCymru

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.