Male hands with pen and paper.png

Daeth y Gymraeg yn iaith swyddogol yng Nghymru o ganlyniad i Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011. Egwyddor y mesur yw i beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.

Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi cyhoeddi Safonau’r Gymraeg a osodir gan Lywodraeth Cymru dan Adran 44 Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011. Bydd ColegauCymru yn cydymffurfio â nhw o 25 Ionawr 2017.

Y Safonau

Cyfres o ofynion cyfreithiol rhwymol yw Safonau’r Gymraeg sy’n ceisio gwella’r gwasanaethau dwyieithog y gall pobl Cymru eu disgwyl gan nifer o gyrff cyhoeddus a statudol, gan gynnwys ColegauCymru. Mae’r Safonau’n nodi’n glir beth yw ein cyfrifoldebau o ran darparu gwasanaethau dwyieithog, gan sicrhau nad yw’r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg.

Mae’n rhaid i ColegauCymru gydymffurfio â’r safonau canlynol:

  • Cyflenwi Gwasanaethau
  • Llunio Polisi
  • Gweithredu
  • Cadw Cofnodion

Hysbysiad Cydymffurfio

Anfonwyd Hysbysiad Cydymffurfio i ColegauCymru ar 25 Ionawr 2016, sy’n nodi’r safonau sy’n berthnasol i ni. 

Hysbysiad Cydymffurfio

Sicrhau Cydymffurfiaeth

Rydym yn cofnodi sut rydym yn sicrhau cydymffurfiaeth â’r Safonau yn y ddogfen Cydymffurfiaeth â’r Safonau, sydd ar gael isod.

Sicrhau Cydymffurfiaeth

Adroddiadau Monitro

1 Ebrill 2022 - 31 Mawrth 2023
1 Ebrill 2021 - 31 Mawrth 2022
1 Ebrill 2020 - 31 Mawrth 2021
1 Ebrill 2019 - 31 Mawrth 2020
1 Ebrill 2018 - 31 Mawrth 2019
1 Ebrill 2017 - 31 Mawrth 2018
25 Ionawr 2017 - 31 Mawrth 2017

Polisiau

Polisi ar gyfer Defnyddio'r Gymraeg yn Fewnol yn y Gweithle

Sylwadau a Chwynion

Cysylltwch helo@colegaucymru.ac.uk gyda'ch adborth ar ddefnydd ColegauCymru o'r Gymraeg.

Gweithdrefn Gwynion ColegauCymru

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.