Senedd - Julian Nyča - CC BY-SA.jpg

Gwaith yr Adran Polisi a Materion Cyhoeddus yw hyrwyddo a chynrychioli colegau yn y cyfryngau yn genedlaethol, ynghyd â gweithio'n agos gydag Aelodau'r Senedd a Gweinidogion y Llywodraeth. Rydym hefyd yn briffio ac yn cyfarfod â llefarwyr perthnasol y pleidiau gwleidyddol ac aelodau pwyllgorau pwysig y Senedd.

Nod ein gwaith yw rhoi mwy o amlygrwydd i’r sector addysg bellach yng Nghymru a chryfhau ei ddylanwad, gan sicrhau bod dysgwyr yn gallu manteisio ar y cyfleoedd addysg a hyfforddiant gorau. Ein swydd yw cynrychioli'r sector addysg bellach ymhlith y rheini sy’n gwneud penderfyniadau a’r rheini sy’n dylanwadu ar bolisïau sy’n effeithio ar addysg a hyfforddiant ôl-16. Mae hyn yn cynnwys y cysylltiadau rhwng addysg a’r economi, iechyd a llesiant.

Mae materion addysg i raddau helaeth wedi’u datganoli, ac felly mae’r rhan fwyaf o’n gwaith polisi ac eirioli yn canolbwyntio ar weithgareddau Llywodraeth Cymru a Senedd Cymru.

Rydym yn datblygu ac yn hyrwyddo ymatebion polisi i faterion o bwys, ac yn mynd ati hefyd i ymateb i alwadau Pwyllgorau’r Senedd am dystiolaeth. Byddwn yn ymateb i ymgynghoriadau gan bob math o sefydliadau, ac yn cynrychioli’r sector addysg bellach ar amryw o bwyllgorau, grwpiau gorchwyl a gorffen, a grwpiau cynghori.

Yn ogystal â hyn, rydym yn lobïo’r holl bleidiau gwleidyddol er mwyn sicrhau eu bod yn creu polisïau sy’n fuddiol i’r colegau sy’n aelodau ohonom, gan awgrymu diwygiadau i ddeddfwriaeth. Yn wythnosol rydym yn briffio Prif Weithredwyr/Penaethiaid y colegau ynghylch yr hyn sy’n digwydd mewn trafodaethau gwleidyddol, gan roi diweddariadau gwleidyddol wythnosol ynghylch materion sy’n ymwneud ag addysg, hyfforddiant a sgiliau yng Nghymru.

Rydym yn ymateb i alwadau ffôn a negeseuon e-bost am golegau a’r sector addysg bellach gan ddiwydiant, y cyfryngau cenedlaethol a’r cyfryngau darlledu, ac yn cynnwys ein haelodau wrth ymateb i'r ymholiadau hynny.

Gwybodaeth Bellach

Cysylltwch â Chyfarwyddwr Polisi a Materion Cyhoeddus ColegauCymru, Rachel Cable, gydag unrhyw gwestiynau.
Rachel.Cable@ColegauCymru.ac.uk

Cyswllt y Cyfryngau a'r Wasg

Lucy Hopkins,
Rheolwr Cyfathrebu

Lucy.Hopkins@ColegauCymru.ac.uk
07932 545 456

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.