Credwn fod gan bob dysgwr yr hawl i addysg o’r radd flaenaf, a ddarperir mewn lleoliad diogel, amrywiol a chynhwysol ac o fewn sector sy’n cefnogi’r gymuned ehangach, cyflogwyr a’r economi.
Grŵp Strategol Cydraddoldeb ac Amrywiaeth ColegauCymru
Dan gadeiryddiaeth Prif Weithredwr Coleg Caerdydd a’r Fro, Mike James, mae Grŵp Strategol Cydraddoldeb ac Amrywiaeth ColegauCymru yn ystyried materion sy’n ymwneud â chydraddoldeb ac amrywiaeth yn y sector addysg bellach ac yn adrodd i Fforwm y Penaethiaid ar gamau i wneud cynnydd. Mae ffocws cydraddoldeb ac amrywiaeth y grŵp yn seiliedig yn bennaf ar y naw nodwedd warchodedig a nodir yn Neddf Cydraddoldeb 2010 ond caiff ei ehangu i gynnwys y Gymraeg a niwroamrywiaeth.
Cefnogi Llywodraeth Cymru ar ei thaith i ddod yn Gymru Wrth-hiliol erbyn 2030
Mae’r sector addysg bellach yng Nghymru yn dangos arweiniad gwirioneddol ar y daith tuag at wrth-hiliaeth, ac yn cefnogi uchelgais Llywodraeth Cymru o greu Cymru wrth-hiliol. Nid ydym yn hunanfodlon ynghylch maint yr her nac ychwaith y gall strategaethau yn unig atal y profiad o hiliaeth y mae dysgwyr a staff yn ei wynebu. Mae ColegauCymru, ar ran ein haelodau, felly wedi ymrwymo i gymryd camau i fod y sector arweiniol i gefnogi Llywodraeth Cymru i gyrraedd y nod uchelgeisiol o Gymru wrth-hiliol erbyn 2030, gan gynnwys:
- Mae pob un o'n 13 sefydliadau addysg bellach wedi datblygu Cynlluniau Gweithredu Gwrth-hiliaeth eu hunain i symud y gwaith hwn yn ei flaen ar lefel leol. Mae pob un wedi datblygu a rhannu adnoddau i gefnogi dysgwyr a staff, ynghyd â chyflwyno hyfforddiant pwrpasol.
- Rydym yn gweithio gydag amrywiaeth o sefydliadau arbenigol gan gynnwys Black Leadership Group, i helpu i gyflawni ein gweledigaeth gyffredin o Gymru wrth-hiliol.
- Rydym yn cyflwyno ymatebion i ymgynghoriadau sy’n cael eu cyhoeddi gan Lywodraeth Cymru a sefydliadau eraill i sicrhau bod llais dysgwyr a staff ar draws y sector yn cael ei glywed.
- Rydym yn rhoi tystiolaeth fel rhan o sesiynau craffu i wahanol bwyllgorau’r Senedd sy’n amlygu sut mae sefydliadau addysg bellach yn arwain y ffordd yn yr ymrwymiad i greu amgylchedd diogel a chynhwysol i bob dysgwr. Rydym hefyd yn defnyddio'r llwyfannau hyn i dynnu sylw at anghydraddoldeb ac i alw am gymorth ychwanegol.
Menywod a merched
- Mae ColegauCymru yn eistedd ar Ford Gron Urddas Mislif Llywodraeth Cymru, sy’n rhoi canllawiau ar faterion sy’n effeithio ar urddas misglwyf yng Nghymru.
- Rydym yn cefnogi ymgyrch Balch o’r Mislif Llywodraeth Cymru - gan ddarparu cyllid i sefydliadau addysg bellach a grwpiau eraill drwy’r grant urddas mislif i sicrhau mynediad am ddim i gynhyrchion mislif, yn y ffordd fwyaf urddasol bosibl. Mae dysgwyr a staff ar draws y cymuned coleg bellach yn gallu cael gafael ar gynhyrchion mislif, gyda ffocws ar gefnogi'r rheini o gartrefi incwm isel.
- Mae ColegauCymru a’n holl aelodau wedi ymrwymo i gefnogi menywod drwy’r menopos ac wedi llofnodi Adduned Gweithle Menopos.
- Yn dilyn cyhoeddi adroddiad Estyn ar Aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion ymhlith dysgwyr 16-18 oed mewn colegau addysg bellach ledled Cymru, mae 7 o’n colegau’n cydweithio ar brosiect a gefnogir gan Lywodraeth Cymru, sy’n edrych ar fynd i’r afael ag aflonyddu mewn addysg bellach, i helpu llywio ymateb parhaus ar gyfer y sector.
- Ers hynny mae ColegauCymru wedi bod yn llwyddiannus wrth sicrhau cyllid Llwybr 2 Taith i weithio mewn partneriaeth â Colleges and Institutes Canada (CICan) i sefydlu Cymuned Ymarfer rhwng colegau yng Nghymru a Chanada i fynd i’r afael â rhai o’r materion a godwyd yn adroddiad Estyn. Nod y prosiect yw adeiladu Cymuned Ymarfer trawswladol, a fydd yn dod â staff AB o Gymru a’n partner o Ganada, CICan, sydd â diddordeb cyffredin yn y maes hwn at ei gilydd, i rannu gwybodaeth, datblygu dysgu newydd, a choladu enghreifftiau o arfer gorau drwy astudiaethau achos
Yr iaith Gymraeg
- Mae ein sefydliadau addysg bellach yn cefnogi gweledigaeth uchelgeisiol Llywodraeth Cymru ar gyfer 1 filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 ac wedi ymrwymo i ehangu’r cynnig Cymraeg ar draws y sector addysg bellach.
- Rydym yn gweithio’n agos gyda’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol sy’n cyflwyno’r cynllun Cymraeg Gwaith sy’n cefnogi dros 400 o staff ar draws 11 coleg yn flynyddol i gynyddu’r defnydd o’u Cymraeg yn y gweithle.
Rydym yn falch bod ein sefydliadau addysg bellach yn:
- gyflogwyr hyderus o ran anabledd - rhan o gynllun Llywodraeth y DU sydd wedi'i gynllunio i annog cyflogwyr i recriwtio a chadw pobl anabl a'r rhai â chyflyrau iechyd.
- ymrwymo i gefnogi iechyd meddwl ac wedi arwyddo’r addewid Amser i Newid, sy’n ceisio mynd i’r afael â stigma a gwahaniaethu ym maes iechyd meddwl.
- cefnogi hawliau LHDTC+ - mae ColegauCymru yn aelod o Grŵp Cynghori Ymarferwyr Trawsrywiol Llywodraeth Cymru, sy'n cefnogi hyrwyddo cydraddoldeb LHDTC+ a rhoi Cynllun Gweithredu LHDTC+ Cymru ar waith.
Gwybodaeth Bellach
Amy Evans, Swyddog Polisi
Amy.Evans@ColegauCymru.ac.uk
Jamie Adair, Cynorthwyydd Polisi
Jamie.Adair@ColegauCymru.ac.uk