Mae'r etholiadau i Senedd Cymru ym mis Mai 2021 yn cynnig cyfle delfrydol i ailffocysu a mireinio rôl a chyfraniad unigryw Addysg Bellach i gymunedau amrywiol a deinamig Cymru. Fel sefydliadau gwasanaeth cyhoeddus sefydledig ac annibynnol, mae Sefydliadau Addysg Bellach Cymru (FEIs) yn fuddion cymunedol sy’n darparu gwasanaeth cyhoeddus hanfodol ochr yn ochr â’r GIG a llywodraeth leol. Er gwaethaf eu rôl hanfodol, yn enwedig wrth i Gymru barhau i addasu i heriau pandemig COVID19, a’u cyfraniad at les economaidd a chymdeithasol, mae cyfraniad sefydliadau addysg bellach i Gymru yn aml yn cael ei anwybyddu.

Mae ein Hargymhellion Polisi ar gyfer llywodraeth nesaf Cymru yn nodi sut y gallai ymyriadau cyraeddadwy ac wedi'u targedu trawsnewid darpariaeth dysgu o un ar bymtheg oed ymlaen, gan roi dinasyddion wrth galon polisi cymdeithasol ac economaidd. Efallai y bydd angen deddfwriaeth ar rai o'r ymyriadau arfaethedig hyn ond lle bynnag y bo hynny'n bosibl dylid newid trwy ddiwygio'r ddeddfwriaeth bresennol.

Fel rhan allweddol o fywyd Cymru, mae ystyriaethau o'r Gymraeg yn rhedeg drwy bob un o bum thema bolisi ColegauCymru. Amlygir yr agwedd Gymraeg o bob thema, a sut y gall Llywodraeth nest Cymru gefnogi'r sector addysg bellach i barhau i ddarparu a chymorth drwy gyfrwng y Gymraeg.

Bydd yr holl ymyriadau yn gofyn am ailgyfeirio gwirioneddol meddwl presennol ac i herio rhagfarnau hir sefydlog. Mae systemau cyllido sefydlog sy'n caniatáu cynllunio tymor canolig o leiaf yn sail i lawer o'r camau sydd eu hangen. Fodd bynnag, bydd llawer iawn hefyd yn dibynnu ar Lywodraeth Cymru’r dyfodol i addasu ei harferion gwaith ei hun, mynd i’r afael yn wirioneddol â dulliau digyswllt tuag at addysg, sgiliau a chymdeithas, a strwythuro’r gwasanaeth sifil mewn ffordd sy’n mynd i’r afael â hyn er mwyn cyflawni’r gorau dros Gymru. Rhaid i'r cyfrifoldebau am Addysg Bellach, sgiliau a phrentisiaethau fod yn gylch gwaith gweinidog penodol sy'n deall y berthynas rhwng y meysydd hyn ac addysg, yr economi a'r gymdeithas yn ehangach.

Darllenwch ein hargymhellion polisi ar gyfer Llywodraeth nesaf Cymru mewn addysg ôl-16 a dysgu gydol oes.

 

 

 

 

 

 

 

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.