Rydym yn galw ar Lywodraeth nesaf Cymru i feddwl am amrywiaeth o faterion gan gynnwys y dull o ddysgu proffesiynol mewn addysg bellach, gan edrych ar y safonau proffesiynol a'r cymwysterau ar gyfer addysgu yn y sector, sut y gallai fersiwn o statws athro cymwys weithio, rôl Cyngor y Gweithlu Addysg yn y dyfodol a sut y gallem wella'r system broffesiynol ddeuol.
Dylai Llywodraeth nesaf Cymru:
- Adeiladu ar yr ymagwedd at ddysgu proffesiynol a chofleidiwyd gan Gwricwlwm Newydd Cymru, a chefnogi proffesiynoli pellach y gweithlu Addysg Bellach.
- Deddfu ar gyfer safonau proffesiynol a gofynion lleiafswm cymhwyster ar gyfer athrawon Addysg Bellach ac ar gyfer goruchwylio'r Fframwaith Datblygu'r Gweithlu Ôl-16.
- Archwilio sut y gellid cymhwyso Statws Athro Cymwysedig (QTS) a model proffesiynol deuol priodol i Addysg Bellach.
- Ehangu cyfrifoldebau Cyngor y Gweithlu Addysg (EWC) i reoleiddio cymwysterau TAR a CertEd i gwmpasu'r sector Addysg a Hyfforddiant Ôl-16 mewn ffordd briodol.
- Ystyried sut y gellir gwella'r system ddeuol broffesiynol, gan ddysgu o arfer gorau rhyngwladol a gweithredu systemau DPP wedi'u hariannu i alluogi hyn, wedi'i lywio gan waith y Ganolfan Addysg a Hyfforddiant Galwedigaethol arfaethedig.
Gweithlu Addysg Bellach sy’n addas i’r dyfodol
Rydym yn galw ar Lywodraeth Gymru nesaf greu gweithlu addysg bellach sy'n addas ar gyfer y dyfodol.
PodPolisi
Ym mhennod olaf y gyfres, mae Cyfarwyddwr Datblygu ColegauCymru Kelly Edwards yn cynnal trafodaeth ynghylch gweithlu addysg bellach sy'n addas ar gyfer y dyfodol. Yn ymuno i drafod hyn ymhellach mae Yana Williams, Prif Weithredwr Coleg Cambria, Mark Dacey, Prif Weithredwr Grŵp NPTC ac Andrew Cornish, Pennaeth a Phrif Weithredwr Coleg Sir Gar a Choleg Ceredigion.