Ehangu hawl ac ymgysylltiad dinasyddion ag addysg

Rydym yn galw am amrywiaeth o gamau megis sicrhau bod pawb yn cael eu hariannu i gael eu cymhwyster Lefel 3 cyntaf, gan ddechrau gyda phobl dan 25 oed ac yna ymestyn hyn. Rydym am i bobl ifanc orfod ymgysylltu â hyfforddiant neu addysg nes eu bod yn 18 oed. Rydym hefyd eisiau adeiladu ar y Mesur Cwricwlwm newydd i ganiatáu i ddysgwyr 14-16 oed gael gwell mynediad at lwybrau galwedigaethol a thechnegol. Mae cynhwysiant digidol wedi bod yn fater mawr felly rydym am i bob dysgwr yng Nghymru gael mynediad at ddyfeisiau ar gyfer dysgu digidol, y feddalwedd gywir a mynediad cyflym i'r rhyngrwyd. Ac yn olaf, rydym yn gofyn am ymrwymiad i ddarparu cyllideb addysg bellach 3 blynedd i alluogi cynllunio mwy effeithiol.

Dylai Llywodraeth nesaf Cymru:

  • Newid sail statudol addysg i ganiatáu hawl wedi'i ariannu ar gyfer mynediad at gymhwyster Lefel 3 cyntaf yn Gymraeg neu Saesneg hyd at a gan gynnwys pawb i 25 oed, yn y lle cyntaf, gydag ymrwymiad i ymestyn yr hawl hon i bob oedolyn. Fel rhan o hyn, codi oedran ymgysylltu ag addysg neu hyfforddiant gorfodol i 18, gan gynnwys y mynediad angenrheidiol at gyngor ac arweiniad annibynnol ar gyfer pob dysgwr.
     
  • Adeiladu ar y Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) a'r effaith ganlyniadol ar lwybrau dysgu 14-19, i ddarparu sylfaen gyfreithiol i ddysgwyr 14-16 oed symud ymlaen i lwybrau galwedigaethol a thechnegol a ddarperir yn annibynnol trwy Sefydliadau Addysg Bellach, a'r cyllid angenrheidiol i gefnogi'r dysgwyr hyn. Dylid neilltuo cyflwyno cymwysterau addysg gyffredinol alwedigaethol i ysgolion a cholegau sydd â'r dynodiad penodol fel canolfannau ar gyfer dysgu technegol a galwedigaethol cychwynnol.
     
  • Cyflwyno ‘hawl ddigidol’ i bob dysgwr - dylai Llywodraeth Cymru’r dyfodol ymrwymo i ddarparu dyfeisiau digidol i bob dysgwr a defnyddio pob dull sydd ar gael i wella mynediad at ryngrwyd cyflym ar draws pob rhan o Gymru. Fel rhan o hyn, rhaid hefyd ystyried darparu lleoedd priodol i ddysgwyr astudio.
     
  • Ymrwymo i gyllideb tair blynedd ar gyfer Addysg Bellach a'i darparu er mwyn galluogi cynllunio mwy effeithiol.

 

Ehangu hawl ac ymgysylltiad dinasyddion ag addysg

Rydym yn amlygu’r angen i ehangu ymgysylltiad dinasyddion ag addysg trwy newid y sylfaen statudol ar gyfer addysg ôl-16 a thrwy ddarparu hawl digidol i ddysgu.

Briff

 

PolicyPod

Ym mhennod gyntaf y gyfres podlediad hon, mae Cyfarwyddwr Polisi a Materion Cyhoeddus ColegauCymru Rachel Bowen yn ymuno â Chadeirydd ColegauCymru a Phrif Weithredwr Coleg Gwent, Guy Lacey a Phrif Weithredwr Coleg Oedolion Cymru / Dysgu Oedolion Cymru - Y Coleg Cymunedol Cenedlaethol - Kathryn Robson i drafod Ehangu hawl ac ymgysylltiad dinasyddion ag addysg.

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.