System gydlynol a chysylltiedig sydd yn cynnwys cymwysterau hyblyg sy'n cael eu gwerthfawrogi

Rydym yn galw ar Lywodraeth nesaf Cymru i ddatblygu gweledigaeth a system gydlynol ôl-16; defnyddio'r pwerau presennol i ddatblygu modd i gyflawni a rheoleiddio cymwysterau Lefel 4 a Lefel 5; cynnal adolygiad o Gymwysterau Cymru a'i gyfrifoldebau; darparu mynediad at gyllid myfyrwyr ar gyfer rhaglenni Lefel 4 a Lefel 5; cyflwyno system ddysgu a chymwysterau mwy hyblyg nad yw'n seiliedig ar amrywiadau o raglenni 35 wythnos/1 neu 2 flynedd; a'i gwneud yn haws i gydnabod unedau dysgu llai, yn hytrach na chymwysterau llawn, sydd yn gludadwy, ac i ddysgwyr allu adeiladu'r rhain dros amser. 

Dylai Llywodraeth nesaf Cymru:  

  • Ar y cyd â'r sector, cyflogwyr, a rhanddeiliaid allweddol, i ddatblygu gweledigaeth Ôl-16 gydlynol a system sy'n mynd i'r afael â chystadleuaeth ddiangen, yn galluogi rheoleiddio cymesur ac effeithiol, ac yn gweithio er budd gorau'r holl ddysgwyr a staff, gan ddefnyddio adolygiad gweinidogol neu ddull arall fel sail.  
     
  • Defnyddio pwerau presennol, datblygu modd i gyflawni ac i reoleiddio cymwysterau Lefel 4 a Lefel 5, p'un ai trwy sefydlu Cyngor Achredu Technegol i Gymru neu orfodi a rheoleiddio partneriaeth a chydweithrediad rhwng Addysg Bellach a Sefydliadau Addysg Uwch a chyflogwyr.  
     
  • Cynnal adolygiad o Cymwysterau Cymru a'i gyfrifoldebau gyda'r bwriad o wneud newidiadau priodol i'w sail gyfreithiol, ei swyddogaethau a'i allu (a fydd yn caniatáu iddo gynnal y Cyngor Achredu Technegol os oes angen).  
     
  • Darparu mynediad at gyllid myfyrwyr ar gyfer rhaglenni Lefel 4 a Lefel 5 ochr yn ochr â datblygu cyfrifon dysgu personol hyblyg i oedolion (Ôl-25), yn seiliedig ar asesiad modd/incwm.  
     
  • Cyflwyno system ddysgu a chymwysterau mwy hyblyg nad yw’n seiliedig ar amrywiadau o raglenni 35 wythnos /1 neu 2 flynedd, a ddarperir yn bennaf mewn ‘oriau swyddfa’ traddodiadol. Gallai hyn gynnwys mathau newydd o gymwysterau megis rheoleiddio proffesiynol a hyfforddiant proffesiynol parhaus wedi'i ddiweddaru, yn ogystal â chymwysterau nad ydynt ynghlwm i un lefel benodol (a gallai gynnwys elfennau priodol o Lefelau 2-4).  
     
  • Ei gwneud hi'n haws i unedau dysgu llai, yn hytrach na chymwysterau llawn, gael eu cydnabod, eu trosglwyddo, ac i ddysgwyr allu adeiladu'r rhain dros amser; gwneud defnydd gwell o brosesau Cydnabod Dysgu Blaenorol (RPL) effeithiol. 

 

System gydlynol a chysylltiedig sydd yn cynnwys cymwysterau hyblyg sy'n cael eu gwerthfawrogi

Rydym yn amlygu’r angen i ddatblygu system gydlynol a chysylltiedig o gymwysterau sydd yn hyblyg ac yn cael eu gwerthfawrogi gan ddysgwyr a chyflogwyr fel ei gilydd.

Briff

 

PodPolisi

Yn y bennod hon, mae Prif Weithredwr ColegauCymru Iestyn Davies yn cynnal trafodaeth o amgylch ein hail thema, system gydlynol a chysylltiedig sy'n cynnwys cymwysterau hyblyg a gwerthfawr. Yn ymuno i drafod hyn ymhellach mae Prif Weithredwr Coleg Cambria Yana Williams a Phennaeth Coleg Gŵyr Abertawe, Mark Jones.

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.