Mae colegau ledled Cymru yn cydweithio i fynd i'r afael â cham-drin merched a menywod a hyrwyddo perthnasoedd parchus rhwng dysgwyr. Ym mis Mai 2024, dyfarnwyd cyllid Taith i ColegauCymru i fynd i'r afael â phryderon a godwyd gan Estyn ynghylch aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion ymhlith dysgwyr 16 i 18 oed. Mae'r prosiect wedi sefydlu Cymuned Ymarfer ryngwladol (CoP) gyda ffocws ar atal a mynd i'r afael â cham-drin menywod.
Mae ColegauCymru yn gweithio gyda Colleges and Institutes Canada, i sefydlu'r CoP sy'n cynnwys staff o bum coleg addysg bellach yng Nghymru, a phum coleg a phrifysgol yng Nghanada.
Mae'r CoP yn cyfarfod ar-lein yn rheolaidd, gan rannu syniadau, arbenigedd ac adnoddau. Yn ogystal, mae siaradwyr gwadd yn mynychu cyfarfodydd i rannu arfer gorau ac arbenigedd yn y maes gwaith hwn.
Ymweliad allanol â Chanada
Ym mis Ebrill 2025, cymerodd wyth cyfranogwr o Gymru ran mewn ymweliad chwe diwrnod â Montreal, Canada. Pwrpas yr ymweliad oedd: cryfhau perthnasoedd o fewn y CoP; archwilio a rhannu arbenigedd ac arfer gorau; rhwydweithio gyda chydweithwyr; a myfyrio ar ddysgu a'u cymhwysiad yng Nghymru.
Un o wersi allweddol y CoP o'r ymweliad â Montreal oedd pwysigrwydd cydnabod casineb at fenywod trwy lens pobl ifanc eu hunain. Mewn ymateb, datblygwyd camau gweithredu i ymgysylltu dynion a bechgyn ifanc mewn sgyrsiau am berthnasoedd parchus, tra hefyd yn ystyried y ffordd orau o'u cefnogi i feithrin sgiliau meddwl beirniadol wrth lywio cynnwys ar-lein a allai fod yn niweidiol.
Ymgysylltu â Dysgwyr Gwrywaidd
Mae gwaith y CoP wedi arwain at bartneriaethau â dau sefydliad allweddol. Mae'r mudiad gwrth-drais, She Is Not Your Rehab, yn eiriolwyr, awduron a chyfathrebwyr o Seland Newydd sydd wedi ymrwymo i ddileu trais teuluol trwy ysbrydoli cenhedlaeth newydd o dorwyr cylchoedd. Daeth Our Voice Our Journey o gydweithrediad rhwng Plan International UK a She Is Not Your Rehab. Gan weithio mewn partneriaeth â'r sefydliadau hyn, bu ColegauCymru yn hwyluso dau ddigwyddiad rhanbarthol yn canolbwyntio ar fynd i'r afael â cham-drin merched a menywod a hyrwyddo perthnasoedd parchus. Cynhaliwyd y digwyddiadau yn Ne a Gogledd Cymru, a chafwyd sgyrsiau pwerus gan Matt Brown ar gyfer dysgwyr gwrywaidd, ac yna sesiynau cynllunio prynhawn dan arweiniad Anne-Marie Lawrence. Gyda mewnbwn ar-lein gan aelodau Canada o'r CoP, bu'r digwyddiadau'n gyfle i staff a dysgwyr archwilio atebion ymarferol ac arloesol i heriau brys fel casineb at ferched a menywod, cam-drin gan gyfoedion, ac agweddau ac ymddygiadau niweidiol.
- Bu pedwar o gyfranogwyr o Ganada yn ymweld â Chymru ym mis Hydref 2025, gan gynnwys ymweliadau â Choleg Cambria, Coleg y Cymoedd, a Choleg Caerdydd a'r Fro.
- Mae aelodau CoP Cymru a Chanada yn cyfrannu at weithdy Deall a mynd i'r afael â cham-drin at fenywod mewn Addysg Bellach - Dysgu o Ganada yng Nghynhadledd Flynyddol ColegauCymru.
- Argymhellion o'r ddau ddigwyddiad rhanbarthol a rannwyd yn ystod gweithdy'r gynhadledd i sefydlu'r camau nesaf ar gyfer y sector.
Drwy gydweithio beiddgar a chamau gweithredu dan arweiniad dysgwyr a staff, mae'r sector Addysg Bellach yng Nghymru yn cymryd camau ystyrlon i herio casineb at fenywod a meithrin diwylliant o barch mewn colegau a'r gymuned ehangach. Y nod yw grymuso dysgwyr a staff i arwain newid a llunio dyfodol lle mae pob llais yn cael ei werthfawrogi a lle mae perthnasoedd parchus yn normal.
Aelodau CoP
| Cymru | Canada |
| Alice Churm (Hi/Ei), Coleg Cambria | Keith Campbell (Ef/Ei), Assiniboine College |
| Charlotte Dando (Hi/Ei), Coleg Caerdydd a'r Fro | Trina Prince (Nhw), Prifysgol Polytechnig Kwantlen |
| Lisa Purcell (Hi/Ei), Coleg y Cymoedd | Mariette Kalinga (Hi/Ei), Collège Boréal |
| Tom Snelgrove (Ef/Ei), Coleg Sir Gâr/Coleg Ceredigion | Lianne Kendall-Perfect (Hi/Ei), Collège Sheridan |
| Maxine Thomas (Hi/Ei), Coleg Sir Benfro | Catherine Montmagny-Grenier (Hi/Ei), Collège de Maisonneuve |
Gwybodaeth Bellach
Taith yw Rhaglen Gyfnewid Dysgu Rhyngwladol Llywodraeth Cymru.
Colleges and Institutes Canada yw llais cenedlaethol a rhyngwladol rhwydwaith addysg ôl-uwchradd mwyaf Canada.
Adroddiad Estyn
Aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion ymhlith dysgwyr 16-18 oed mewn colegau addysg bellach ledled Cymru
Mehefin 2023
Siân Holleran, Rheolwr Prosiect Rhyngwladol ColegauCymru
Sian.Holleran@ColegauCymru.ac.uk
Vicky Thomas, Project Officer
Vicky.Thomas@ColegauCymru.ac.uk
