Mae ColegauCymru yn falch iawn o gyhoeddi dychweliad ein Cynhadledd Flynyddol a fydd yn digwydd ar 23 Hydref 2025 yn Stadiwm Dinas Caerdydd.
Bydd Cynhadledd eleni yn canolbwyntio ar Dwf, Cyfle a Thegwch - a sut y gall y sector addysg bellach ysgogi newid cadarnhaol i ddysgwyr, cymunedau a'r economi yng Nghymru.
Gydag etholiad Senedd 2026 ar y gorwel, bydd y Gynhadledd yn archwilio beth sydd ei angen ar y sector gan Lywodraeth nesaf Cymru i ffynnu ac i gyflawni ei llawn botensial.
Rydym yn falch o gyhoeddi Agored Cymru fel Prif Noddwr digwyddiad eleni. Bydd y Gynhadledd yn dod â dros 200 o randdeiliaid allweddol, addysgwyr ac arweinwyr diwydiant o bob cwr o Gymru a thu hwnt ynghyd. Bydd cyfle i gynrychiolwyr gymryd rhan mewn dadleuon panel sy'n ysgogi meddwl, gweithdai rhyngweithiol, a rhwydweithio â chyfoedion, a hynny i gyd wrth arddangos cryfder ac effaith y sector addysg bellach.
Prif Anerchiad
Byddwn wrth ein bodd yn croesawu'r Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch, Vikki Howells AS, a fydd yn traddodi'r prif anerchiad.
Gweithdai
Bydd y Gynhadledd yn cynnal amrywiaeth o sesiynau grŵp, gyda themâu gan gynnwys:
- Deall a mynd i'r afael â misogynistiaeth mewn Addysg Bellach - Dysgu o Ganada
- WorldSkills UK - Defnyddio arfer gorau rhyngwladol i godi safonau mewn prentisiaethau ac addysg dechnegol
- Rhwystrau i gyfranogiad - safbwynt y dysgwr
- Ymgysylltu dysgwyr mewn diwylliant o berthyn
- Creu Hawl i Ddysgu Gydol Oes i Gymru
- Dathlu amrywiaeth, herio casineb. Adeiladu Cymru Wrth-hiliol 2030
- Paratoi'r gweithlu ar gyfer newid technolegol - Gwersi o Seattle
- Pontio’r Bwlch: Cryfhau darpariaeth ADY drwy arloesi a chydweithio
Noddwyr a Gofod Arddangos
Bydd y diwrnod hefyd yn rhoi digon o gyfle i gynrychiolwyr ymweld â'n gofod arddangos i rwydweithio a meithrin perthnasoedd.
Gwybodaeth Bellach ac Chyfleoedd Nawdd
Mae gennym amrywiaeth o gyfleoedd noddi ar gael. Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth neu unrhyw gwestiynau cyffredinol eraill a allai fod gennych: Rachel.Rimanti@ColegauCymru.ac.uk
Ceir atebion i gwestiynau cyffredin ar ein tudalen Cwestiynau Cyffredin y Gynhadledd Flynyddol.
Edrychwn ymlaen at eich croesawu ym mis Hydref!