pexels-charlotte-may-5966011 2.jpg

Cyfeiriwyd at y broses ar gyfer cydnabod dysgu blaenorol o dan enwau gwahanol megis dilysu dysgu blaenorol a chydnabod profiad blaenorol. Daw'r prosesau hyn o dan y term cyffredinol Cydnabod Dysgu Blaenorol (CDB).

Mae Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru (FfCChC) yn darparu sylfaen hanfodol ar gyfer CDB. Mae'n caniatáu i ddysgu, sgiliau a dealltwriaeth gael eu disgrifio a'u diffinio mewn fformat cyffredin a gydnabyddir gan wahanol sefydliadau.

Defnyddir CDB mewn ystod o leoliadau:

  • Trosglwyddo credydau mewn addysg uwch (AU) pan fydd dysgwyr yn cario credyd a enillwyd mewn un cymhwyster ac yn ei ddefnyddio fel rhan o gymhwyster newydd neu mewn sefydliad gwahanol. Mae'r rheolau a'r gweithdrefnau ar gyfer CDB wedi'u nodi yng Nghanllawiau QAA - Making Use of Credit: A Companion to the Higher Education Credit Framework for England
  • Gellir defnyddio proses debyg ar gyfer unrhyw gymhwyster credyd. Ar gyfer cymwysterau cydnabyddedig yng Nghymru, mae Cymwysterau Cymru wedi cyhoeddi Canllawiau i gyrff dyfarnu ar Gydnabod Dysgu Blaenorol.
  • Mynediad i AU i ddysgwyr aeddfed/sy'n dychwelyd i addysg nad oes ganddynt gymwysterau ffurfiol. Mae'n bosibl y bydd dysgwyr heb gymwysterau ffurfiol ond sydd â phrofiad perthnasol yn cael hyn wedi'i gydnabod wrth wneud cais am swydd neu fynediad i gyrsiau addysg ffurfiol.
  • Efallai y bydd gan weithwyr sy'n ailhyfforddi sgiliau perthnasol y gellir eu cydnabod fel rhai dilys ar gyfer cymwysterau newydd.
  • Mae llawer o bobl yn mynychu cyrsiau neu'n cael cydnabyddiaeth lle nad oes cymhwyster ffurfiol. Gall dilysu dysgu anffurfiol gydnabod sgiliau a chymwyseddau a gyflawnwyd eisoes i hwyluso hyfforddiant pellach neu fynediad i raglenni astudio ar gyfer cymwysterau ffurfiol.
  • Cydnabod dysgu/cymwysterau a enillwyd lle mae dogfennaeth ar goll megis ar gyfer ffoaduriaid a mudwyr gorfodol.

Mae nifer o enghreifftiau o arfer da yn y defnydd o CDB yng Nghymru. Fodd bynnag, mae tystiolaeth nad yw CDB yn cael ei ddefnyddio’n ddigonol a’i fod yn cael ei danbrisio, yn enwedig wrth ddilysu dysgu anffurfiol y tu allan i AU, wrth ailhyfforddi’r gweithlu a’i ddefnydd i gefnogi mudwyr gorfodol i fynd i gyflogaeth, addysg a hyfforddiant.

Gwybodaeth Bellach

Phil Whitney ac Adrian Sheehan yw prif gysylltiadau ColegauCymru ar gyfer Cydnabod Dysgu Blaenorol mewn colegau Addysg Bellach yng Nghymru.

Phil.Whitney@ColegauCymru.ac.uk
Adrian.Sheehan@ColegauCymru.ac.uk

FfCChC  Adnoddau CDB  CDB gydag ymfudwyr gorfodol ac eraill

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.