Manifesto 2026 Main Page Banner CYM.png

Mae’r maniffesto hwn yn nodi sut gall y sector Addysg Bellach fod yn rhan o fynd i’r afael â’r heriau y bydd Cymru yn eu hwynebu dros y ddegawd nesaf - yr her o sero net, cyflawni twf economaidd cynaliadwy, newid technolegol cyflym, a gofynion newydd ar wasanaethau cyhoeddus.

Bydd tymor nesaf y Senedd yn gyfnod diffiniol ar gyfer dyfodol Cymru. Bydd heriau sero net, cyflawni twf economaidd cynaliadwy, newid technolegol cyflym, a gofynion newydd ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus yn siapio dyfodol Cymru am genhedlaeth.

Mae llwyddiant economaidd Cymru yn y dyfodol yn ddibynnol ar sgiliau ein pobl, buddsoddi mewn sgiliau yw’r ffactor pwysicaf mewn twf economaidd a mynd i’r afael ag anghydraddoldebau yng Nghymru. Mae colegau yn falch o’u rôl fel sefydliadau angor o fewn eu cymunedau ac economïau lleol. O symud ymlaen i’r brifysgol, gwneud prentisiaeth, dychwelyd i addysg fel oedolyn neu hyfforddi fel plymwr, gosodwr systemau pympiau gwres, arbenigwr diogelwch seiber, dylunydd gwe, neu nyrs, mae colegau yn lleoedd lle gall pawb lwyddo. Maent yn sbarduno newid cadarnhaol ac yn hanfodol os yw Cymru am gael y dyfodol rydym i gyd yn ei haeddu.

Diwygio ar sail cenhadaeth
Mae heriau difrifol a brys yn wynebu Cymru dros y degawd nesaf.

Darllenwch fwy am ein 3 cenhadaeth.

CENHADAETH 1 CENHADAETH 2 CENHADAETH 3
Tyfu’r economi drwy arfogi’r diwydiant a’r gweithlu gyda’r sgiliau sydd eu hangen i wynebu’r heriau a ddaw o economi sy’n newid o ganlyniad i sero net a datblygiad Deallusrwydd Artiffisial (AI). Gwella diyniant, cyfranogiad a chanlyniadau mewn addysg ôl-16 drwy chwalu rhwystrau, helpu pobl ifanc wneud y penderfyniadau cywir ynghylch eu dyfodol a bod yn barod ar gyfer byd gwaith, a darparu addysgu a dysgu o ansawdd uchel. Mynd i’r afael ag anghydraddoldeb rhwng cenedlaethau a thlodi drwy addysg i oedolion a mynediad at ddysgu ail gyfle.

 

 

 

 

 

 

 

 

CENHADAETHAU A ATEGIR GAN SEFYDLOGRWYDD ARIANNOL

Ni ellir cyflawni’r tair cenhadaeth heb gydnabod pwysigrwydd mynd i’r afael â phwysau ariannol yn y sector a sicrhau fod gan golegau well sefydlogrwydd ariannol tymor-hir a hyblygrwydd gweithredol i fodloni anghenion eu cymunedau.


Lawrlwythwch

MANIFFESTO COLEGAUCYMRU 

Bydd tymor nesaf y Senedd yn gyfnod diffiniol ar gyfer dyfodol Cymru. Bydd heriau sero net, cyflawni twf economaidd cynaliadwy, newid technolegol cyflym, a gofynion newydd ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus yn siapio dyfodol Cymru am genhedlaeth.

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.