Er gwaethaf prosesau rheoli ariannol gofalus phroffesiynol ar draws y sector, mae pwysau gwirioneddol ar AB o hyd oherwydd y cynnydd mwyaf erioed yn nifer y dysgwyr sy’n dewis coleg ar ôl ysgol, codiadau cyflog nad ydynt wedi’u hariannu’n llawn, costau chwyddiannol cyflwyno cyrsiau heb eu hariannu a’r cynnydd yng nghyfraniadau Yswiriant Gwladol cyflogwyr.
Er mwyn cefnogi mwy o sefydlogrwydd ariannol yn y sector ac i ddarparu’r adnoddau sydd eu hangen ar golegau i ddarparu ar gyfer dysgwyr a chyflogwyr, dylai Llywodraeth nesaf Cymru weithio gyda Medr i:
- Cyflwyno cylch cyllideb tair blynedd ar gyfer AB a Dysgu Seiliedig ar Waith fel y gall colegau gynllunio ar gyfer y tymor hir, gan gynnwys cronfeydd cyfalaf. Mae dadansoddiad diweddar gan ColegauCymru yn dangos bod cofrestriadau yn y grŵp oedran 16-18 ar gyfer 2024/25 wedi cynyddu 8.27% ers 2023/24. Mae ffigurau cofrestru wedi cynyddu’n arbennig ar gyfer y dysgwyr hynny sy’n dod i mewn ar lefelau is, a dysgwyr sydd angen cymorth i aros mewn addysg.
- Ailymrwymo i ariannu cydraddoldeb graddfa gyflog rhwng darlithwyr AB ac athrawon ysgol a darparu cyllid ychwanegol i helpu i dalu costau cyflog staff cymorth busnes a dysgu seiliedig ar waith, ac ymrwymo i ariannu’r cynnydd yng nghyfraniadau Yswiriant Gwladol cyflogwyr yn llawn. Ni ellir cyflawni’r tair cenhadaeth heb gydnabod pwysigrwydd mynd i’r afael â phwysau ariannol yn y sector a sicrhau fod gan golegau well sefydlogrwydd ariannol tymor-hir a hyblygrwydd gweithredol i fodloni anghenion eu cymunedau.
- Cychwyn adolygiad rheoleiddio trawslywodraethol i ryddhau adnoddau drwy leihau beichiau rheoleiddiol â blaenoriaeth isel. Ochr yn ochr â buddsoddiad newydd, gall arbedion effeithlonrwydd gwirioneddol ryddhau adnoddau y gellir eu defnyddio’n well i gefnogi dysgwyr a gwella addysgu a dysgu.
- Ymrwymo i gyllid cynaliadwy hirdymor i sicrhau rolau Hyfforddwyr Bugeiliol ar draws colegau fel bod dysgwyr yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt ac y gellir canolbwyntio llwyth gwaith darlithwyr ar addysgu a dysgu o ansawdd uchel.
- Cynyddu’r gyfradd ariannu fesul uned i gwrdd â chostau chwyddiannol llawn darparu addysg o ansawdd uchel.
- Ariannu darpariaeth a chymorth ADY yn gynaliadwy. Mae data colegau yn dangos y rhagwelir cynnydd mewn costau yn sgil y dyletswyddau ADY newydd. Ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26 mae colegau yn amcangyfrif costau ychwanegol o £2.7miliwn. Mae arweinwyr ADY yn awgrymu y bydd y costau ychwanegol ar gyfer y flwyddyn ganlynol yn nes at fwy na £3miliwn.
Darllenwch fwy am ein tri cenhadaeth:
CENHADAETH 1 | CENHADAETH 2 | CENHADAETH 3 |
Tyfu’r economi drwy arfogi’r diwydiant a’r gweithlu gyda’r sgiliau sydd eu hangen i wynebu’r heriau a ddaw o economi sy’n newid o ganlyniad i sero net a datblygiad Deallusrwydd Artiffisial (AI). |
Gwella diyniant, cyfranogiad a chanlyniadau mewn addysg ôl-16 drwy chwalu rhwystrau, helpu pobl ifanc wneud y penderfyniadau cywir ynghylch eu dyfodol a bod yn barod ar gyfer byd gwaith, a darparu addysgu a dysgu o ansawdd uchel. |
Mynd i’r afael ag anghydraddoldeb rhwng cenedlaethau a thlodi drwy addysg i oedolion a mynediad at ddysgu ail gyfle. |
Lawrlwythwch MANIFFESTO COLEGAUCYMRU