Dangos gwerth cymdeithasol colegau addysg bellach yng Nghymru

pexels-yan-krukau-8199562.jpg

Mae ColegauCymru yn falch iawn o lansio ymchwil newydd sy’n amlygu gwerth cymdeithasol colegau addysg bellach yng Nghymru. 

Gydag arian grant gan Lywodraeth Cymru, comisiynodd ColegauCymru asiantaeth ddatblygu Cwmpas a’r Ganolfan Strategaethau Economaidd Lleol (CLES) i gynnal prosiect ymchwil i sefydlu gwerth cymdeithasol addysg bellach yng Nghymru. Fel sefydliadau angori, mae colegau'n gwneud cyfraniad sylweddol i'w heconomïau a'u cymunedau lleol. Nod yr ymchwil hwn yw datblygu dealltwriaeth gyfredol o effaith a gwerth cymdeithasol y sector colegau. 

Mae’r sector ar hyn o bryd yn llywio cyfnod heriol – gyda’r pwrs cyhoeddus dan bwysau dwys a newidiadau i’n hisadeiledd addysg. O ystyried yr heriau sy’n wynebu Cymru heddiw, mae colegau addysg bellach yn bwysicach nag erioed, ac yn barod i helpu Llywodraeth Cymru i gyflawni ei huchelgeisiau o sicrhau Cymru gryfach, wyrddach a thecach. 

Mae’r ymchwil yn dwyn ynghyd dystiolaeth o bob rhan o Gymru sy’n pwysleisio’r cyfraniadau allweddol y mae colegau’n eu gwneud i’w cymunedau lleol, gwasanaethau cyhoeddus a diwydiannau. Mae’r data a’r astudiaethau achos wedi’u mapio yn erbyn saith nod llesiant Cymru
 

  • Cymru lewyrchus 

  • Cymru gydnerth 

  • Cymru iachach 

  • Cymru sy’n fwy cyfartal 

  • Cymru o gymunedau cydlynus 

  • Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu 

  • Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang 
     

Dywedodd Prif Weithredwr ColegauCymru, David Hagendyk, 

“Mae’r ymchwil bwysig hon yn helpu i ddangos gwir werth ein colegau addysg bellach, nid yn unig i’n dysgwyr, ond wrth helpu ein cymunedau i ffynnu ac wrth gefnogi ffyniant economaidd yma yng Nghymru. Rydym yn falch bod Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle AS, yn ymuno â ni yn ein digwyddiad lansio ym Mae Caerdydd heddiw, ac yn ddiolchgar am gydnabyddiaeth Llywodraeth Cymru o’r rôl allweddol y mae colegau’n ei chwarae yng Nghymru heddiw a’r dyfodol.” 

Ychwanegodd Cyfarwyddwr Twf Busnes ac Ymgynghoriaeth Cwmpas, Dr Sarah Evans, 

“Mae’r darn hwn o ymchwil arloesol yn dangos y gwaith y mae’r Sector Addysg Bellach, yng Nghymru, yn ei wneud i hyrwyddo ac ymgorffori gwerth cymdeithasol yn ei holl weithgareddau. Mae’r colegau addysg bellach wrth galon eu cymunedau ac yn sefydliadau angor allweddol wrth lunio eu heconomïau lleol yn awr ac yn y dyfodol ac mae hon yn rôl na ddylid ei hanwybyddu. Edrychwn ymlaen at weld sut mae’r sector yn adeiladu ar y darn cyntaf hwn o ymchwil gwerth cymdeithasol, i gasglu data a mewnwelediad yn y dyfodol a pharhau i dynnu sylw at yr effaith y mae’r sector yn ei chael ar lefelau lleol, rhanbarthol a Chenedlaethol.” 

Gwybodaeth Bellach 

Adroddiad Ymchwil ColegauCymru 
Dangos Gwerth Cymdeithasol Colegau Addysg Bellach yng Nghymru
Ebrill 2024 

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 

Rachel Cable, Cyfarwyddwr Polisi a Materion Cyhoeddus 
Rachel.Cable@ColegauCymru.ac.uk  

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.