Torri'r cylch: ColegauCymru yn cryfhau brwydr yn erbyn cam-drin menywod a merched mewn colegau addysg bellach

Wales 16 year olds vote (1).jpg

Mae ColegauCymru yn falch o nodi Diwrnod Rhyngwladol y Menywod heddiw drwy barhau â'n hymrwymiad i fynd i'r afael â cham-drin menywod a merched a hyrwyddo perthnasoedd parchus mewn colegau Addysg Bellach ledled Cymru. Gan adeiladu ar lwyddiant ein prosiect Taith blaenorol, rydym wedi sicrhau £40k o gyllid Llwybr 2 newydd i ymestyn y gwaith pwysig hwn. 

Daeth y prosiect blaenorol i ben gyda dau ddigwyddiad rhanbarthol mawr, gan gyrraedd dros 400 o ddynion a bechgyn ifanc yng Nghymru. Bu’r cyfranogwyr yn cymryd rhan mewn trafodaethau gonest a myfyriol gyda Matt Brown, sylfaenydd She is Not Your Rehab. Gellir gweld fideo byr sy'n dal effaith y sesiynau hyn yma:  

 

Bydd y cam nesaf yn canolbwyntio ar ddarparu hyfforddiant Be More than a Bystander ar draws pob coleg addysg bellach yng Nghymru. Mae ColegauCymru yn cydweithio â phartner rhyngwladol, The Ending Violence Association of British Columbia (EVA BC), Canada, sefydliad dielw blaenllaw sydd â dros ddegawd o brofiad mewn rhaglenni atal sy'n seiliedig ar dystiolaeth a thrawma i ddynion a bechgyn. Mae dull EVA BC yn arfogi cyfranogwyr - yn enwedig y rhai ar gyrsiau 'crefftau' galwedigaethol - gyda strategaethau ymarferol a senarios go iawn i hyrwyddo perthnasoedd parchus ac atal trais. 

Bydd Cymuned Ymarfer Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant ColegauCymru yn gweithio ochr yn ochr ag EVA BC i addasu hyfforddiant Canada i'r cyd-destun Cymreig, gan sicrhau bod y senarios a'r strategaethau yn atseinio gyda dysgwyr ac amgylcheddau addysg bellach leol. Rydym yn ddiolchgar bod y gwaith datblygu hwn yn cael ei gefnogi drwy gyllid gan Medr

Meddai Rheolwr Prosiect ColegauCymru, Siân Holleran 

"Mae Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yn gyfle i fyfyrio ar y cynnydd rydyn ni wedi'i wneud yn y sector Addysg Bellach wrth herio agweddau niweidiol, ond hefyd y gwaith sy'n parhau. Rydym yn ddiolchgar i Taith am gydnabod gwerth y gwaith a gyflawnwyd eisoes - ac am ariannu'r cam nesaf hwn - fel y gallwn barhau i ymgysylltu â dynion a bechgyn ifanc fel cynghreiriaid a'u harfogi â'r sgiliau i herio cam-drin menywod a merched. Mae'r gwaith hwn yn ymateb yn uniongyrchol i ganfyddiadau adroddiad Estyn, a gyda'n gilydd rydym yn helpu i greu amgylcheddau coleg mwy diogel a mwy parchus ledled Cymru." 

Gwybodaeth Bellach

Dysgwch fwy am waith ColegauCymru ar Fynd i'r afael â cham-drin menywod a hyrwyddo perthnasoedd parchus yn y sector Addysg Bellach

Be More Than a Bystander 
Rhaglen hyfforddi ac addysg bwerus sy'n ysbrydoli newid tuag at wneud cymunedau yn fwy diogel
 
Adroddiad Estyn 
Aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion ymhlith dysgwyr 16-18 oed mewn colegau addysg bellach ledled Cymru
Mehefin 2023 

Darganfyddwch fwy am Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod y Cenhedloedd Unedig 

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.