ColegauCymru yn croesawu buddsoddiad Llywodraeth Cymru mewn colegau yng nghyd-destun pwysau ariannol difrifol

pexels-armin-rimoldi-5554302.jpg

Heddiw, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cyllid ychwanegol ar gyfer colegau Cymru - £13miliwn mewn cyfalaf, a £4miliwn mewn refeniw. 

Dywedodd Prif Weithredwr ColegauCymru, David Hagendyk, 

“Rydym yn croesawu’r buddsoddiad ychwanegol hwn gan Lywodraeth Cymru - cydnabyddiaeth bod colegau ledled Cymru yn wynebu heriau ariannol digynsail. Eleni, maent wedi croesawu nifer sylweddol o bobl ifanc yn gwneud cais ac yn cofrestru ar gyrsiau llawn amser, ac mae’n hanfodol y gall ein colegau gefnogi pob dysgwr gyda cham nesaf eu taith ddysgu.
 
Fodd bynnag, er bod cyhoeddiad heddiw yn gydnabyddiaeth o faint yr her, ac yn gam i amddiffyn dysgwyr, sgiliau’r dyfodol, ac economi Cymru, bydd blwyddyn academaidd 2026/27 yn dal i fod yn anodd iawn i golegau. Rhaid i’r peth pwysicaf i Lywodraeth nesaf Cymru ar ôl mis Mai fod edrych eto ar y cyllid a fydd gan golegau ar gyfer y flwyddyn academaidd newydd. 

Mae addysg bellach mewn sefyllfa unigryw i ymateb i anghenion busnes Cymru - heddiw ac yn y dyfodol. Mae gofynion diwydiant yn newid yn gyflym, ac mae colegau’n hanfodol i adeiladu’r gweithlu medrus ar gyfer ein dyfodol. Bydd y cyllid ychwanegol hwn o gymorth mawr ond dim ond ateb rhannol ydyw i sicrhau y gall colegau fod yn gynaliadwy yn ariannol a diwallu anghenion dysgwyr.” 

Gwybodaeth Bellach

Datganiad i'r Wasg Llywodraeth Cymru 
Ysgolion, colegau a phrifysgolion i elwa ar dros £40 miliwn o gyllid cynnal a chadw ychwanegol
11 Mawrth 2026

Llythyr ColegauCymru at Gadeirydd Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd 
ColegauCymru yn galw am gefnogaeth frys i golegau Cymru
24 Tachwedd 2025

Maniffesto ColegauCymru ar gyfer etholiad Senedd 2026 
Twf, Cyfle a Thegwch
 
Amy Williams, Swyddog Polisi 
Amy.Williams@ColegauCymru.ac.uk

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.