Astudiaeth Achos: "Buddiol iawn i yrfa broffesiynol o ran cefnogi dysgwyr ag ADY ac awtistiaeth o fewn addysg bellach."

Website banner - keyboard.png

Julia Green yw Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) Coleg Sir Gar. Gan oruchwylio 75 aelod o staff ar draws 7 campws, mae hi'n gweithredu fel cyswllt ar gyfer pob dysgwr, rhieni a gwarcheidwaid ADY, sy'n cyfateb i oddeutu 20% o boblogaeth y coleg.

Cwblhaodd Julia y cwrs PG Cert SEN/ALN (Awtistiaeth) ym Mhrifysgol De Cymru ym mis Mai 2021. Yma mae'n sôn am ei phrofiad.

"Pan glywais am y cwrs gan Chris Denham o Golegau Cymru, roeddwn i'n teimlo ei bod yn hanfodol i fi gofrestru, â finnau’n Bennaeth Adran Cymorth Dysgu. Mae gen i wybodaeth arbenigol a chymwysterau mewn dyslecsia a dyspracsia ond doedd gen i ddim hyder o ran awtistiaeth. Roeddwn i eisiau uwchsgilio, i fy ngalluogi i gynnig profiad dysgu gwell i ddysgwyr.

Cafodd y cwrs ei gyflwyno ar-lein. Rwy’n byw yng ngorllewin Cymru, felly roedd hyn yn ddelfrydol i fi gan na fu’n rhaid teithio. Roedd gen i bryderon i gychwyn gan fy mod i’n hoffi rhyngweithio mewn ystafell ddosbarth. Ond buan iawn y diflannodd y pryderon. Roedd y cwrs wedi'i strwythuro'n dda, roedd y deunyddiau'n wych, ac roedd Dr Carmel Conn yn gefnogol iawn. Felly, fe wnes i fwynhau'r elfen ar-lein fwy nag oeddwn i’n ei ddisgwyl i gychwyn.   
O weithio'n llawn amser ac astudio ar gyfer doethuriaeth broffesiynol ar yr un pryd, roedd yn rhaid i fi fod yn llym iawn gyda fi fy hun i neilltuo amser i ymgysylltu â gwaith a deunyddiau'r cwrs. Gwnes i fwynhau ysgrifennu'r aseiniadau, atgyfnerthu fy ngwybodaeth, a rhoi fy marc fy hun ar y pynciau roeddwn i wedi dewis ymchwilio iddyn nhw.  

Wrth edrych yn ôl, mae’n amlwg bod y rhaglen wedi bod o fudd mawr i fy ngwaith ac i'r coleg. Soniais wrth uwch reolwyr fy mod yn dymuno helpu’r holl staff gweinyddol a staff y cyfadrannau i uwchsgilio a dysgu am y ffordd orau o gefnogi dysgwyr ADY, yn enwedig y rhai ag awtistiaeth. O ganlyniad, rydyn ni wedi trefnu dau ddiwrnod DPP i wneud hyn. Bydd ar ffurf cydweithrediad rhwng y Cydgysylltwyr Cymorth Dysgu, y tîm addysgu a dysgu a finnau fel y Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol. Bydd yn gyfle i’r rheiny ohonon ni sydd â phrofiad o weithio gyda dysgwyr ADY rannu’r cyfoeth o wybodaeth a strategaethau sydd gennym, mewn digwyddiad i holl aelodau staff addysgu a chymorth y cyfadrannau.

Rwyf hefyd yn rhan o weithgor sy'n adolygu polisi ymddygiad y coleg, gan fod teimlad nad oedd yn addas ar gyfer dysgwyr ADY. Ein nod yw lansio'r polisi newydd y tymor nesaf. Bydd yn canolbwyntio mwy ar yr unigolyn ac yn ystyried sut mae angen cefnogi dysgwyr awtistig. O ganlyniad i gwblhau'r cwrs awtistiaeth, rwyf wedi nodi bod angen mannau tawel ar gyfer dysgwyr ADY ar ein saith campws. 

Fe raddiais o Brifysgol De Cymru gyda Lefel 7 ac MA mewn Arwain a Rheoli, a Lefel 7 mewn AAA (Anghenion Addysgol Arbennig) yn gynnar iawn yn fy ngyrfa, felly PDC ddarparodd y llwybr i'r rôl sydd gen i nawr.  

Rwy'n falch iawn ohonof fy hun am barhau’n frwdfrydig a chwblhau gydag anrhydedd. Byddwn yn argymell y cwrs hwn yn fawr i gyd-ymarferwyr addysg bellach. Fel cwrs lefel 7, mae'n waith caled, ond po fwyaf yr ymdrech a wnewch y mwyaf y cewch o’r cwrs. Mae'n fuddiol iawn i yrfa broffesiynol o ran cefnogi dysgwyr ag ADY ac awtistiaeth o fewn addysg bellach."

Gwybodaeth Bellach

Darganfyddwch fwy am y cydweithrediad rhwng ColegauCymru a Phrifysgol De Cymru i gydlynu cyflwyno'r cymhwyster newydd hwn.

Oes gennych chi gwestiwn?

Chris Denham yw Arweinydd Trawsnewid ColegauCymru ar gyfer ADY. Mae wedi gweithio'n agos gyda Phrifysgol De Cymru i gydlynu cyflwyno'r rhaglen astudio hon, a ddyluniwyd yn benodol ar gyfer ymarferwyr addysg bellach. 

Chris.Denham@colegaucymru.ac.uk

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.