Dechrau cadarnhaol i 2019/20 ar gyfer Addysg Bellach

Cafodd ColegauCymru ddechrau cadarnhaol i'r flwyddyn academaidd newydd.

Yn dilyn y buddsoddiad o £175,000 i wella gwasanaethau iechyd meddwl a lles i ddysgwyr a staff mewn AB, dyfarnwyd £2 filiwn yn ychwanegol i'r sector yn y cyhoeddiad cyllideb ddiweddaraf. Cynhaliodd ColegauCymru ddigwyddiad ym mis Tachwedd i ddathlu nifer o brosiect Iechyd Meddwl lle trafodwyd y canlyniadau sy'n anelu at wella lles dysgwyr.

Fel rhan o'n gwaith Erasmus +, cyfarfu grŵp o ddysgwyr â Jeremy Miles, Gweinidog Brexit Llywodraeth Cymru, i drafod effaith gadarnhaol a buddion Erasmus+. Pwysleidiodd y cyfarfod bwysigrwydd cadw lleoliadau gwaith galwedigaethol Ewropeaidd i ddysgwyr coleg ar ôl i ni adael yr Undeb Ewropeaidd. Yn dilyn y cyfarfod, gofynnodd Vikki Howells AC i’r Gweinidog am ddyfodol Erasmus+ yng Nghymru, dywedodd ar ôl clywed yn uniongyrchol o’r ddysgwyr ei bod yn amlwg bod yn rhaid i Gymru fod yn rhan o gynllun Erasmus+ ledled y DU yn y dyfodol.

Cynhaliodd ColegauCymru un cyfarfod Grŵp Trawsbleidiol y tymor hwn, gan lansio ein hdroddiad ymchwil ar “Creu Cymru Gwell - Gwersi o Ewrop”. Roedd y panel yn y digwyddiad yn cynnwys yr ymgynghorydd Dr Mark Lang, a wnaeth gyflwyniad o’r canfyddiadau, Is-Bennaeth Sharon James, a siaradodd o safbwynt AB, a’r AC Llafur Alun Davies, a ymatebodd i’r cyflwyniadau o safbwynt gwleidyddol. Bydd cyfarfod cyntaf y Grŵp Trawsbleidiol yn 2020 yn canolbwyntio ar “Paratoi ar gyfer miliwn o siaradwyr Cymraeg – cyfraniad gan AB”.

Bydd 2020 yn gweld strategaeth ColegauCymru ar gyfer Lles Gweithredol yn cael ei lansio gyda'r nod o ddatblygu cynllun strategol tymor hir sy'n hyrwyddo budd chwaraeon a gweithgaredd corfforol ar les ar gyfer colegau AB. Er mwyn cefnogi'r datblygiad hwn, cynhaliwyd cyfres o fforymau Lles Gweithredol yn dymor yr Hydref i ddarparu platfform i drafod datblygiad yn y sector yn y dyfodol a hefyd edrych yn agosach ar sut y gall gwahanol sefydliadau weithio gyda'i gilydd.

Bydd ColegauCymru yn parhau i ymateb i nifer o ymgynghoriadau pwysig yn y flwyddyn newydd wrth i ni ystyried materion fel Cwricwlwm Cymru 2022 a'r cymwysterau newydd i gyd-fynd ag ef, ar ôl ymateb eisoes i naw ymgynghoriad y tymor hwn. Byddwn hefyd yn cynnal perthnasoedd agos ag Aelodau Cynulliad a Gweinidogion i dynnu sylw at gyfraniad parhaus Addysg Bellach a sicrhau bod y sector AB yn parhau i ddarparu canlyniadau addysg, hyfforddiant a sgiliau o'r radd flaenaf i bob dysgwr ôl-orfodol yng Nghymru.

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.