Teyrnged i Mohammad Asghar

Mohammad Asghar - National Assembly For Wales Cynulliad Cymru, licensed under CC BY 2.0.png

Mae ColegauCymru yn drist i glywed am farwolaeth Aelod Seneddol y Ceidwadwyr, a Gweinidog yr Wrthblaid dros Addysg Bellach, Sgiliau a Ffydd, Mohammad Asghar yn ddiweddar.

Dywedodd Dafydd Evans, Cadeirydd Fforwm Penaethiaid ColegauCymru

"Roeddem bob amser yn falch o groesawu Oscar, fel ei hadnabuwyd gan aelodau’r Senedd a’r cyhoedd fel ei gilydd, i ddigwyddiadau a drefnwyd gan ColegauCymru. Gwnaethpwyd ei gyfraniadau i'r Grŵp Trawsbleidiol ar Ddyfodol Addysg Bellach a Sgiliau bob amser o'i brofiad ei hun o ddysgu gydol oes.”

Ychwanegodd Iestyn Davies, Prif Weithredwr ColegauCymru

“Byddai Oscar bob amser yn fy nghroesawu â gwên. Roedd ei haelioni amser ac ysbryd yn gwneud ymgysylltu ag ef dros nifer o flynyddoedd ac ar draws nifer o friffiau polisi bob amser yn bleser. Ynghyd â chadeirydd ColegauCymru ac ar ran y gymuned Addysg Bellach rydym yn cydymdeimlo'n ddiffuant â'i deulu a'i ffrindiau."

Mae Mr Asghar yn gadael ei wraig Firdaus a'i ferch Natasha ar ôl. Mae ColegauCymru yn cynnig ein cydymdeimlad diffuant i'w deulu a’i ffrindiau niferus.

Llun gan National Assembly For Wales / Cynulliad Cymru, licensed under CC BY 2.0

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.