Croesewir cyllid ychwanegol ar gyfer gorchuddion wyneb ond ni ddylai dynnu oddi ar ddiffyg cyllid mewn meysydd eraill

pexels-lucian-petronel-potlog-3991782.jpg

Heddiw mae ColegauCymru wedi croesawu cyhoeddiad y Gweinidog Addysg i ddarparu £469,000 o gyllid i sicrhau bod gorchuddion wyneb am ddim ar gael mewn lleoliadau addysg bellach. 

Fodd bynnag, ni ddylai hyn dynnu oddi ar ddiffygion ariannol yr ydym yn parhau i'w gweld yn y sector. Mae colegau addysg bellach ledled Cymru yn gweithio'n galed i reoli'r canlyniadau o doriadau cyllid blaenorol yn ychwanegol at y pwysau ariannol ychwanegol sydd bellach wedi dod o ganlyniad i argyfwng Covid19. 

Rhaid i'r Llywodraeth mynd i'r afael â gwaharddiad digidol, yn fwy nawr nag erioed o’r blaen. Mae diffygion sylweddol yn parhau o ran darparu offer TGCh, meddalwedd a chysylltedd, a chyda hynny daw'r risg o gynyddu'r rhaniad digidol. 

Dywedodd Cadeirydd Fforwm Cyfarwyddwyr Ariannol ColegauCymru, Mark Jones,

“Er ein bod yn croesawu cyhoeddiad heddiw, mae ein haelodau yn parhau i bryderu am y pwysau ariannol sy’n wynebu’r sector wrth inni barhau i ddarparu ar gyfer tirwedd ddysgu newidiol ôl-Covid. Bydd sylfaen ariannol gydnerth yn hanfodol i lwyddiant sefydliadau addysg bellach wrth symud ymlaen ac rydym yn annog Llywodraeth Cymru i roi sicrwydd ariannol tymor hir i'r sector.” 

Ychwanegodd Iestyn Davies, Prif Weithredwr ColegauCymru,

“Iechyd a diogelwch dysgwyr a staff yw ein blaenoriaeth o hyd. Croesewir y cyhoeddiad heddiw, gyda’r cyllid ychwanegol wedi’i osod i helpu i wneud campysau coleg yn lleoedd mwy diogel i ddysgu a gweithio ynddynt. Rydyn ni nawr yn edrych at Lywodraeth Cymru i'n cefnogi wrth i ni ymdrechu i sicrhau bod pob dysgwr yn cael yr un cyfleoedd i gyrraedd eu potensial nawr ac yn y dyfodol.” 

Gwybodaeth Bellach

Datganiad i’r Wasg Llywodraeth Cymru: 
£2.3m i ddarparu gorchuddion wyneb ar gyfer dysgwyr ysgolion uwchradd ac addysg bellach 
7 Medi 2020

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.