Croeso i gyllid ychwanegol i gefnogi dysgwyr sydd wedi teimlo’r effaith fwyaf yn sgil y pandemig

morebooks.jpeg

Heddiw mae ColegauCymru wedi croesawu cyhoeddiad Llywodraeth Cymru yn cadarnhau cyllid ychwanegol i gefnogi dysgwyr coleg a chweched dosbarth ledled Cymru. Mae'r cyllid ychwanegol yn rhan o gyfanswm o £24m a fydd ar gael i helpu'r rhai sydd wedi teimlo’r effaith fwyaf yn sgil pandemig Covid19. 

Defnyddir yr arian i gefnogi dysgwyr sydd mewn blwyddyn lle maent yn sefyll arholiad a myfyrwyr ôl-16 sy'n trosglwyddo i gam nesaf addysg neu gyflogaeth, ac ar gyfer gweithgareddau fel diwrnodau agored a sesiynau blasu ar gyfer gyrfaoedd galwedigaethol. Fe'i defnyddir hefyd i ddarparu cefnogaeth ychwanegol i ddysgwyr o'r cefndiroedd mwyaf difreintiedig, a'r rhai sydd wedi ymddieithrio rhag dysgu. 

Rydym yn ddiolchgar i Weinidog y Gymraeg ac Addysg, sy'n parhau i gydnabod pwysigrwydd addysg a'r aflonyddwch parhaus sy'n wynebu ein pobl ifanc. 

Dywedodd Prif Weithredwr ColegauCymru Iestyn Davies, 

“Gyda dyfodiad Omicron, a’r ansicrwydd sy’n cyd-fynd ag ef, mae’r cyllid ychwanegol wedi’i groesawu gan ein haelodau. 

Mae'n hanfodol ein bod yn cefnogi ein dysgwyr difreintiedig a bregus a'r rhai sy'n wynebu arholiadau ac asesiadau i roi'r cyfleoedd gorau posibl iddynt lwyddo." 

Mae'r sector addysg bellach wedi ymrwymo i gefnogi pob dysgwr wrth i ni barhau i lywio'r cyfnod heriol hwn a byddwn yn gweithio'n agos gyda chydweithwyr a rhanddeiliaid Llywodraeth Cymru i sicrhau hyn. 

Gwybodaeth Bellach 

Datganiad i'r Wasg Llywodraeth Cymru 
£24m i sicrhau na fydd unrhyw ddysgw yn cael ei adael ar ol
16 Rhagfyr 2021 

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.