Cyllid ychwanegol ar gyfer darpariaeth prydau ysgol a choleg am ddim wedi ei sicrhau

pexels-pixabay-256520 (3).jpg

Mae ColegauCymru yn cydnabod gwarant Llywodraeth Cymru heddiw o ddarparu prydau ysgol am ddim i bobl ifanc ledled Cymru. Wedi'i gadarnhau gan y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, bydd y ddarpariaeth yn cwmpasu'r holl wyliau ysgol hyd at a chan gynnwys Pasg 2021, o ganlyniad i gyllid ychwanegol o £11m. 

Yn dilyn y cyhoeddiad, dyrannwyd £700,000 ychwanegol hefyd i gefnogi colegau i gynnig darpariaeth gyfatebol ar gyfer dysgwyr cymwys ar raglenni addysg bellach drwy’r Gronfa Wrth Gefn Ariannol (FCF). Mae’r gronfa’n dosbarthu adnoddau ar system o angen a fformiwla i sicrhau bod y dysgwyr hynny sydd angen cefnogaeth fwyaf yn ei derbyn. 

Dywedodd Prif Weithredwr ColegauCumru Iestyn Davies,

“Rydym yn croesawu’n gynnes cyhoeddiad heddiw am gyllid ychwanegol. Ein blaenoriaeth o hyd yw lles a diogelwch ein holl ddysgwyr ac i sicrhau bod y rhai mwyaf difreintiedig yn cael y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt. Mae hwn yn gyhoeddiad amserol a fydd yn darparu diogelwch i’n dysgwyr mwyaf agored i niwed a’u teuluoedd wrth inni barhau i lywio cyfnod o ansicrwydd sylweddol”. 

Gwybodaeth Bellach

Datganiad i’r Wasg Llywodraeth Cymru 
Marcus Rashford MBE yn croesawu penderfyniad Llywodraeth Cymru i ddarparu prydau ysgol am ddim yn ystod pob gwyliau ysgol tan Pasg 2021 
15 Hydref 2020

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.