Cyllid ychwanegol i sicrhau bod rhaglenni galwedigaethol yn cael eu cwblhau ac i gefnogi prentisiaid

Catering learners.jpg

Heddiw mae ColegauCymru wedi croesawu’n gynnes yr arian ychwanegol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru i alluogi dychwelyd dysgwyr yn ddiogel i’r coleg i gwblhau eu hastudiaethau.

Bydd £26.5m o’r cyfanswm o £29m yn cael ei ddyrannu'n benodol i gefnogi parhad a chwblhad rhaglenni galwedigaethol gyda chyllid ychwanegol ar gyfer cefnogaeth iechyd meddwl a lles i ddysgwyr addysg bellach a phrentisiaid.

Dywedodd Cadeirydd ColegauCymru Guy Lacey,

“Rydym yn galonogol gan gydnabyddiaeth y Gweinidog o’r heriau sy’n wynebu rhaglenni galwedigaethol a phrentisiaethau yn y pandemig parhaus ac mae croeso cynnes i gyhoeddiad heddiw.” Bydd yr arian ychwanegol yn caniatáu mwy o ddarpariaeth a chefnogaeth fel y gall dysgwyr gael mynediad i'r cyfleusterau a'r offer sydd eu hangen arnynt. Bydd y grŵp blaenoriaeth hwn o ddysgwyr yn gallu dychwelyd i'r coleg yn ddiogel yn dilyn yr egwyl hanner tymor.

Ychwanegodd Iestyn Davies, Prif Weithredwr ColegauCymru,

“Mae'r sector addysg bellach yng Nghymru wedi hyrwyddo pwysigrwydd cymwysterau galwedigaethol a phrentisiaethau, i ddysgwyr ac i ffyniant economaidd. Mae hyn er gwaethaf y camsyniad cyffredin bod ganddynt lai o werth na'r hyn sy'n cyfateb yn academaidd. Rydym yn parhau i fod yn ddiolchgar i'r Gweinidog a chydweithwyr yn y llywodraeth yn eu dull rhagweithiol o sicrhau bod pob dysgwr ôl-16 yn cael chwarae teg o ran eu haddysg."

Gwybodaeth Bellach

Datganiad i'r wasg Llywodraeth Cymru
Cymorth ychwanegol o £29 miliwn i fyfyrwyr addysg bellach
7 Chwefror 2021

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.