A tribute to Aled Roberts

candle.jpeg

Mae staff, ac aelodau ColegauCymru yn drist o glywed am farwolaeth sydyn Aled Roberts. Fel Comisiynydd y Gymraeg, a chyn hynny fel Aelod Cynulliad, roedd Aled yn eiriolwr parod ac yn gyfaill parchus ac allweddol i’r sector addysg bellach.

Meddai Cadeirydd ColegauCymru, Guy Lacey

“Rydym wedi ein syfrdanu ac yn drist iawn o weld colled Aled. Roedd ei ethos personol cryf a’i werthoedd gwasanaeth cyhoeddus ynghyd â chariad at y Gymraeg yn amlwg ym mhopeth a wnâi. Bydd cyfleoedd pellach i dalu teyrnged iddo, ond ar hyn o bryd rydym yn cydymdeimlo â’i wraig, Llinos a’r teulu i gyd.”

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.