Podlediad: Mae ADY o bwys i bawb

Faceless students in college grounds.jpg

Mae ColegauCymru yn falch o rannu podlediad a fydd yn edrych ar ddarpariaeth ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol mewn addysg bellach yng nghyd-destun y Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) (Deddf ALNET).

Yn y podlediad cyntaf hwn, mae Arweinydd Trawsnewid ADY ColegauCymru ar gyfer addysg bellach, Chris Denham, yn siarad â Greg Cavill, Rheolwr Cynhwysiant Coleg Penybont, am ei flaenoriaethau wrth iddo ddechrau ei rôl newydd yng Nghymru.

Gynt, fu Greg yn gweithio mewn coleg mawr yn Lloegr ac mae ganddo brofiad uniongyrchol o'r newidiadau a ddaeth yn sgil diwygiadau Anghenion Addysgol Arbennig yno. Mae hyn yn rhoi persbectif unigryw iddo a fydd yn hynod werthfawr i Coleg Penybont a'r sector addysg bellach yn ei gyfanrwydd wrth i ni i gyd baratoi ar gyfer gweithredu'r Ddeddf.

Dywedodd Chris Denham,

“Roedd yn wych cael y cyfle i sgwrsio â Greg sydd eisoes wedi gweithio trwy weithredu diwygiadau ADY. Mae ei fewnwelediad yn werthfawr, a bydd y bennod hon yn gyfle defnyddiol i bob cydweithiwr addysg bellach sy'n gweithio ym maes darparu ADY mewn addysg bellach yng Nghymru."

Ychwanegodd Greg Cavill,

“Roeddwn yn falch o allu rhannu fy mhrofiad o weithio yn Lloegr. Mae yna lawer o heriau yn wynebu colegau wrth i ni symud tuag at weithredu ADY, ond cymaint o gyfleoedd hefyd i gael pethau'n iawn i'n dysgwyr."

Gwrandewch Nawr

Cysylltwch

Chris Denham
Arweinydd Trawsnewid ALN ColegauCymru 
Chris.Deham@colegaucymru.ac.uk

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.