Niferoedd prentisiaid a roddeyd ar ffyrlo neu a ddiswyddwyd yn parhau i ostwng; colegau'n rhybuddio bod cefnogaeth ychwanegol yn angenrheidiol

Apprentices working on a car.png

Heddiw mae ColegauCymru yn croesawu cyhoeddiad ystadegau Llywodraeth Cymru sy'n tynnu sylw at y gostyngiad yn y nifer o brentisiaid a roddeyd ar ffyrlo neu a  ddiswyddwyd hyd at 27 Awst 2021.  

Dywedodd Cyfarwyddwr Datblygu ColegauCymru, Kelly Edwards,

“Mae ein colegau addysg bellach yn falch i fod y prif ddarparwr prentisiaethau yng Nghymru, ac er bod y niferoedd yn galonogol, rydym yn galw am gefnogaeth ychwanegol i’r rhai sydd wedi cael eu heffeithio’n niweidiol gan y pandemig i sicrhau bod pob prentis yn cael yr un cyfle i gwblhau eu cymwysterau.”

Ychwanegodd Prif Weithredwr ColegauCymru, Iestyn Davies,

“Mae prentisiaid yn gyfranwyr allweddol at adferiad economaidd Cymru mewn byd ôl-bandemig. Mae'n hanfodol ein bod yn darparu'r gefnogaeth briodol i'w galluogi i gwblhau eu cymwysterau trwy ennill y profiad yn y gweithle sydd ei angen fel y gallant symud ymlaen yn eu gyrfaoedd."

Mae'r data a gyhoeddir hefyd yn tynnu sylw at yr anghydraddoldebau ymhlith gwahanol grwpiau yr effeithir arnynt gan gynnwys, pobl ifanc, wrywaidd, hil gymysg, a'r rhai sy'n gweithio yn y diwydiannau hamdden, chwaraeon, lletygarwch a theithio. Rhaid canolbwyntio'n benodol ar bontio'r bylchau hyn. 

Daeth Iestyn Davies i’r casgliad,

“Wrth inni ddechrau’r cyfnod pan mae Llywodraeth Cymru yn penderfynu ar ei chyllideb ar gyfer 2022/23 rhaid i fuddsoddiad parhaus ym mhob agwedd o sgiliau barhau i fod yn flaenoriaeth.”


Gwybodaeth Bellach

Ystadegau Llywodraeth Cymru 
Prentisiaid a roddeyd ar ffyrlo neu a ddiswyddwyd yn ystod pandemig coronafeirws (COVID-19): hyd at 27 Awst 2021 
7 Medi 2021

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.