Caniatâd i brentisiaid a dysgwyr galwedigaethol ddychwelyd i'r coleg

Llandrillo - Bricklaying (6).jpg

 

Mae ColegauCymru yn falch o groesawu cyhoeddiad Llywodraeth Cymru i ganiatáu dychwelyd dysgwyr galwedigaethol a phrentisiaid “trwydded i ymarfer” i’r coleg o 22 Chwefror 2021. 

Daw hyn o ganlyniad i weithgor newydd rhwng ColegauCymru, yr undebau llafur ar y cyd (JTUs) a chydweithwyr yn y llywodraeth. Mae'r bartneriaeth gymdeithasol hon wedi gweithio'n barhaus ac yn gyflym i fynd i'r afael â materion sydd wedi cyflwyno eu hunain o ganlyniad uniongyrchol i'r pandemig, er mwyn sicrhau bod dysgwyr yn dychwelyd yn ddiogel i golegau. 

Dywedodd Cadeirydd ColegauCymru, Guy Lacey,

“Rydym yn galonogol gan gydnabyddiaeth heddiw o bwysigrwydd galluogi dysgwyr galwedigaethol a phrentisiaid i ddychwelyd i'r coleg. Ni all y dysgwyr hyn gwblhau eu rhaglenni astudio ar-lein yn yr un modd ag y gall eu cyfoedion academaidd. Heb asesiad wyneb yn wyneb ni fyddant yn gallu parhau i gam nesaf eu hastudiaethau na symud ymlaen i fyd gwaith. Ein blaenoriaeth, fel bob amser, yw sicrhau diogelwch ein dysgwyr a'n staff bob amser.” 

Mae canllawiau gweithredol yn cael eu hadolygu ar hyn o bryd a disgwylir i ddrafft terfynol gael ei gyhoeddi gan Lywodraeth Cymru ddydd Mawrth 9 Chwefror. Disgwylir hefyd y bydd manylion cyllid ychwanegol ar gyfer y sector addysg bellach i helpu i gefnogi dysgwyr i ddychwelyd yn ddiogel i'r coleg gael eu cyhoeddi ar yr un pryd. 

Ychwanegodd Prif Weithredwr ColegauCymru Iestyn Davies,

“Mae'r gweithgor newydd ei ffurfio wedi dod at ei gilydd i weithredu'n gyflym ac yn effeithlon i sicrhau bod y dysgwyr yn dychwelyd yn u ffordd fwyaf diogel a chynharaf posibl, yn enwedig y rhai sy'n agored i niwed neu'n sydd heb yr allu i gwblhau eu hastudiaethau o bell. Rydym yn ddiolchgar i'r undebau a'n cydweithwyr yn y llywodraeth am eu cefnogaeth barhaus a'u hagwedd gydweithredol wrth gyrraedd ein nod."

Gwybodaeth Bellach

Cynhadledd i’r wasg byw Llywodraeth Cymru 
5 February 2021

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.