Wythnos Prentisiaethau Cymru: Dathlu gwerth prentisiaethau fel llwybrau i gyflogaeth ac economi llwyddiannus

Apprentices working on a car.png

Mae ColegauCymru yn falch o gefnogi Wythnos Prentisiaethau Llywodraeth Cymru a gynhelir rhwng 6-13 Chwefror 2023. Mae’r dathliad blynyddol hwn o brentisiaethau am wythnos yn hyrwyddo’r gwerth y maent yn ei gynnig i ddysgwyr a chyflogwyr ledled Cymru. 

Mae ColegauCymru yn cydlynu’r rhwydwaith o 11 o sefydliadau addysg bellach sy’n gweithio mewn partneriaeth agos i gyflwyno rhaglenni prentisiaeth o ansawdd uchel mewn ystod eang o feysydd galwedigaethol – o brentisiaethau iau i brentisiaethau lefel sylfaen ac uwch. Gyda chysylltiadau cryf â diwydiant a systemau cymorth hynod sefydledig ar gyfer dysgwyr, gan gynnwys Canolfannau Cyflogaeth a Menter ymroddedig sydd bellach ym mhob coleg yng Nghymru, mae’r sector addysg bellach mewn sefyllfa dda i helpu i gyflwyno’r sgiliau angenrheidiol i ddysgwyr allu cychwyn ar yrfaoedd llwyddiannus, a chynhyrchu a chadw pobl fedrus i helpu i ateb y galw presennol ac yn y dyfodol am fusnesau ac Economi Cymru. 

Cytundeb gyda bwrdd hyfforddiant adeiladu, CITB 

Mae ColegauCymru ar ran ein haelodau hefyd wedi arwyddo cytundeb gyda Bwrdd Hyfforddi’r Diwydiant Adeiladu, CITB, mewn ymgais i gefnogi darparu cymwysterau adeiladu a chefnogaeth i ddysgwyr, prentisiaid a chyflogwyr ledled Cymru. Mae’r bartneriaeth hon yn allweddol i sicrhau bod dysgwyr a phrentisiaid yn cael yr hyfforddiant a’r medrau priodol sydd eu hangen i allu gwneud cyfraniad gwerthfawr i ddiwydiant a’r economi. Y gobaith hefyd yw y bydd y symudiad yn cael ei efelychu ar draws gwahanol sectorau yn y dyfodol. 

Dywedodd Cynghorydd Strategol ColegauCymru Dysgu Seiliedig ar Waith a Chyflogadwyedd Jeff Protheroe, 

“Mae’r sector addysg bellach wedi hen gydnabod prentisiaethau fel llwybr gwerthfawr i waith neu yrfa newydd, a’r buddion y maent yn eu cynnig i unigolion, cyflogwyr a’r economi. Mae'r sector addysg bellach yn cymryd camau breision yn y maes hwn, yn enwedig gyda sefydlu Canolfannau Cyflogaeth a Menter yn ddiweddar a'r cytundeb gyda CITB. 

Rydym yn falch iawn o ddathlu’r wythnos hon a rhannu’r straeon gwych am brentisiaethau llwyddiannus sydd wedi arwain at gyfleoedd cyflogaeth ystyrlon neu astudiaeth bellach.” 

Gwybodaeth Bellach 

Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau: Gweinidog yr Economi yn annog busnesau i recriwtio prentis
6 Chwefror 2023

Llywodraeth Cymru | Busnes Cymru
Wythnos Prentisiaethau 2023

Jeff Protheroe, Cynghorydd Strategol ar Ddysgu Seiliedig ar Waith a Chyflogadwyedd 
Jeff.Protheroe@ColegauCymru.ac.uk 

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.