Prentisiaethau yn garreg gamu i addysg uwch

Heather Raymond installing guages for a pneumatic actuator onsite (002).jpg

Wrth i Wythnos Prentisiaeth Cymru ddod i ben, rydym yn falch o fod wedi gallu rhannu enghreifftiau o sut mae rhaglenni prentisiaeth yn cyfoethogi bywydau dysgwyr, ac yn cynnig ffordd ddefnyddiol o ddatblygu cyfleoedd dysgu a gwaith. 

Yma, mae William Bateman, Rheolwr Maes Cwricwlwm Peirianneg Fecanyddol a Morol Coleg Sir Benfro, yn rhannu manylion un dysgwr sy’n dymuno cwblhau gradd mewn Peirianneg. 

Enw 

Heather Raymond 

Prentisiaeth 

Prentisiaeth Lefel 3 Peirianneg Offeryniaeth a Rheoli 

Coleg 

Coleg Sir Benfro 

 

“Yn brentis ail flwyddyn gyda Phurfa Olew Valero, mae Heather ar hyn o bryd yn mynychu Coleg Sir Benfro un diwrnod yr wythnos i gwblhau ei hastudiaeth tuag at y cymhwyster technegol lle mae rhagoriaethau wedi’u rhagweld ym mhob uned. 

Mae Heather yn gweithio yn yr adran offeryniaeth yn Valero am weddill yr wythnos lle cesglir tystiolaeth tuag at yr NVQ yn gwneud gwaith cynnal a chadw ataliol ac adweithiol. Mae Heather yn cynhyrchu gwaith eithriadol yn ymarferol ac yn ddamcaniaethol, gyda’r swyddog sicrhau ansawdd allanol ar gyfer City & Guilds yn nodi mai portffolio Heather oedd ‘y gorau a welwyd mewn 25 mlynedd yn y rôl’. 

Mae Heather yn gobeithio cymhwyso mewn offeryniaeth a rheolaeth erbyn diwedd y flwyddyn ac mae'n edrych i symud ymlaen i'r HNC mewn Offeryniaeth a Rheolaeth ym mis Medi 2022. O hyn, mae Heather yn dymuno cwblhau gradd mewn peirianneg. 

Cyn ennill Prentisiaeth, astudiodd Heather Safon Uwch yn Ysgol Gyfun Aberdaugleddau cyn gweithio gydag United Aerospace yn y gweithdy lamineiddio. Roedd gan Heather fwlch mewn addysg am 10+ mlynedd cyn ennill y brentisiaeth Valero y gwnaeth gais amdani yn 30 oed. 

Mae Heather yn mwynhau'r Brentisiaeth yn fawr. Mae wedi rhoi’r cyfle iddi ddysgu sgiliau newydd yn ogystal ag ehangu ar y sgiliau mecanyddol y mae wedi’u dysgu drwy reidio a chynnal a chadw beiciau modur oddi ar y ffordd. 

Mae Cynllun Prentisiaeth Valero yn denu ystod amrywiol o unigolion, tra bod rhai yn gwneud cais yn uniongyrchol o’r ysgol, mae llawer o’r prentisiaid eisoes wedi cael profiad sylweddol mewn amrywiaeth eang o sectorau ac mae hyn yn dod â deinameg unigryw i Brentisiaeth Valero sy’n ei gwneud yn wahanol iawn i nifer o gynlluniau prentisiaeth eraill. 

Mae newidiadau diweddar wedi’u gwneud i’r Cynllun sy’n ei alluogi i wir groesawu’r amrywiaeth hwn a’i ddefnyddio fel catalydd ar gyfer twf a datblygiad personol ei brentisiaid. 

Y tu allan i’w hastudiaethau, mae Heather yn reidio’n gystadleuol mewn treialon beiciau modur ledled Cymru diolch i gefnogaeth ei noddwr Steve Plain Motorcycles. Mae Heather wedi bod yn reidio ers chwe blynedd ac yn ddiweddar symudodd i lefel anoddach o gystadleuaeth. 

Yn y gorffennol, mae Heather wedi ennill yn ei dosbarth mewn digwyddiadau cystadlu, wedi derbyn Gwobr y Beiciwr Benywaidd Gorau yn nigwyddiadau Blood Bikes Wales a Chlwb Beic Modur Clasurol Arberth. Mae Heather hefyd wedi ennill Treial Coffa Jean Williams a’i dosbarth ym Mhencampwriaethau Aml-ddosbarth Cymru.” 

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.