Prentisiaethau yn allweddol i baratoi gweithlu Cymru'r dyfodol

Apprentices working on a car.png

Ymatebodd ColegauCymru i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar Strwythur ar gyfer Fframweithiau Prentisiaethau Cymru, gan dynnu sylw at bwysigrwydd y system brentisiaethau ar gyfer datblygu arbenigedd technegol a chymhwysedd proffesiynol.

Bydd cynnig Llywodraeth Cymru i adolygu a symleiddio'r strwythur prentisiaeth yn helpu i gynyddu dealltwriaeth o brentisiaethau i ddysgwyr a'u rhieni, yn ogystal â chyflogwyr. Bydd cryfhau'r strwythur prentisiaeth yn helpu i godi atyniad llwybrau galwedigaethol a gwella parch at swyddi technegol.

Fodd bynnag, yn ogystal â datblygu sgiliau technegol dysgwyr, rhaid i brentisiaethau hefyd darparu sgiliau cyflogadwyedd a throsglwyddadwy sydd eu hangen ar gyfer bywyd gwaith ac i reoli trawsnewidiadau gyrfa mewn marchnad lafur newidol.

Dywedodd Kelly Edwards, Cyfarwyddwr Datblygu ColegauCymru,

“Mae'r sector Addysg Bellach yn croesawu adolygiad o'r strwythur prentisiaethau ac yn cefnogi llwybrau prentisiaethau sy'n gysylltiedig â swyddi technegol a phroffesiynol.”

“Fodd bynnag, mae'n bwysig bod dysgwyr prentisiaethau yn cael eu cefnogi gan raglen ddysgu eang i alluogi caffael sgiliau ehangach. Mae sgiliau arwain a rheoli, er enghraifft, yn bwysig i bob sector a rhaid i ni sicrhau ein bod yn creu strwythur sy'n datblygu arweinwyr y dyfodol er budd economi ehangach Cymru."

“Yn ogystal â thynnu sylw at fanteision rhaglen brentisiaeth i ddysgwyr ac i gyflogwyr, mae ColegauCymru wedi ymrwymo i hyrwyddo cyfleoedd dilyniant a phrofiad dysgu teg i bob dysgwr ar raglenni galwedigaethol ar draws y sector Addysg Bellach.”

Gwybodaeth Bellach

Kelly Edwards, Cyfarwyddwr Datblygu
Kelly.Edwards@colegaucymru.ac.uk

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.