“Bydd y wybodaeth rwyf wedi dysgu yn gwella fy ymarfer ac roedd yn werth yr ymrwymiad amser ac egni.”

Celebration.jpg

Mae Rheolwr ALN Coleg Gwent Elaine Jones yn rhannu ei phrofiad o astudio tuag at y PG Cert SEN/ALN (Autism), sy'n rhan o'r MA llawn a gynigir gan Brifysgol De Cymru.

Mae Elaine yn gyfrifol am reoli gweithredol a gwella ansawdd pob agwedd o ddarpariaeth ADY y Coleg. Mae hi hefyd yn cyfrannu at ddatblygiad strategol sy'n cynnwys sicrhau bod y Coleg wedi'i baratoi'n ddigonol ar gyfer gweithredu'r Ddeddf ADY a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru). Elaine hefyd yw Cydlynydd ADY dynodedig y Coleg. 

Dywedwch ychydig wrthym pam eich bod yn gweithio ym maes darpariaeth SBA/ADY

"Dechreuais fy ngyrfa fel athrawes mewn ysgol gynradd mewn ardal canol dinas yn Birmingham. Roedd gan lawer o'r plant ADY a/neu wedi cael profiadau niweidiol yn ystod plentyndod (ACE). Yna gweithiais gyda phobl ifanc a oedd wedi gadael yr ysgol heb lawer o gymwysterau ac a oedd â barn negyddol am addysg. Diolch byth, mae'r wybodaeth a'r ddealltwriaeth o ADY ac ACE wedi cynyddu dros y blynyddoedd. I'r mwyafrif o blant a phobl ifanc, bydd yr ymyriadau a'r gefnogaeth gywir yn gwella eu cyfleoedd bywyd ac yn eu galluogi i gael dyfodol llwyddiannus, annibynnol. Rwy'n parhau i weithio mewn ADY er mwyn i mi allu eirioli dros bobl ifanc a hyrwyddo'r cryfderau a'r galluoedd sydd ganddyn nhw yn ogystal â'u helpu i oresgyn y rhwystrau y gallen nhw eu hwynebu."

Amlinellwch y rhesymau pam yr oeddech yn awyddus i achub ar y cyfle i astudio tuag at y PG Cert SEN/ALN (Autism) gyda Phrifysgol De Cymru

"Roeddwn yn awyddus i ddiweddaru fy ngwybodaeth a'm dealltwriaeth o Anhwylder Sbectrwm Awtistiaeth (ASD). Gan fod fy rôl yn cynnwys darparu cyngor, mae'n hanfodol fy mod yn parhau â'm datblygiad proffesiynol."

Dywedwch wrthym yn fyr am yr hyn yr oedd yr astudiaeth yn ei olygu 

"Teitl fy mhrosiect oedd A ddylai cefnogaeth mewn coleg addysg bellach gynorthwyo dysgwr awtistig i addasu i ddysgu yn y coleg neu a ddylem ni ganolbwyntio ar addasu amgylchedd y coleg i ddiwallu anghenion y dysgwr? Yn bennaf, mae gen i ddiddordeb yn y gwahaniaethau rhwng modelau cymdeithasol a meddygol anabledd. Mae gan addysg bellach rôl bwysig wrth sicrhau bod gwahaniaethau'n cael eu parchu, wrth baratoi pobl ifanc ar gyfer bywyd oedolion a hwyluso newid cymdeithasol. Mae angen i ni symud i ffwrdd o’r model meddygol o ‘wella’ pobl a symud yn agosach at y model cymdeithasol lle gall newidiadau bach i ddarpariaeth, amgylchedd a chwricwlwm wella canlyniadau i bob dysgwr.

Rhaid inni ystyried a ydym yn talu digon o sylw i hyrwyddo agwedd gadarnhaol tuag at awtistiaeth a derbyn bod gan ddysgwyr awtistig gryfderau y dylid eu gwerthfawrogi yn ogystal â heriau y gellir mynd i'r afael â hwy. Mae dysgwyr awtistig yn ceisio ffitio i fyd estron niwro-nodweddiadol ac mae eu hymdrechion i guddliwio'r anawsterau maen nhw'n eu profi yn cael effaith negyddol ar eu hiechyd meddwl."

Beth weithiodd yn dda i chi? 

  • Roedd arweinydd ein cwrs Dr Carmel Conn yn wybodus ac yn hawdd i gysylltu. Roedd hi'n barod i helpu ac ymatebodd yn gyflym i e-byst. 
  • Cefais fy nghyfeirio hefyd at ddeunyddiau ymchwil cyfoes, a oedd o gymorth mawr. 
  • Roedd yr opsiwn i gael barn staff colegau yn gweithio'n uniongyrchol gyda phobl ifanc ASD yn ogystal â rheolwyr sy'n gyfrifol am gefnogaeth hefyd yn fudd enfawr. 

Beth na weithiodd cystal? 

"Byddai wedi bod yn fuddiol bod wedi cael cyfle i gael rhai sesiynau tiwtorial wyneb yn wyneb. Yn anffodus, nid oedd hyn yn bosibl oherwydd cyfyngiadau Covid."

Pa fuddion ydych chi'n credu y gall y cymhwyster hwn eu cynnig i'ch coleg a phrofiadau dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol? 

"Mae'r cymhwyster hwn wedi gwella fy nealltwriaeth o'r effaith y gall gwahaniaethau synhwyraidd ei chael ar bobl ifanc ag ASD, ac mae wedi arwain at werthusiad ffres a gonest o addasrwydd amgylchedd y coleg. Yn ogystal, rydw i nawr yn gallu darparu mwy o arweiniad i staff rydw i'n eu rheoli yn ogystal ag i staff sy'n cefnogi pobl ifanc ag ASD."

Pa ddysgu ymarferol ydych chi'n bwriadu ei weithredu yn eich coleg o'r cwrs hwn?

"Gan fod gan y Coleg gynlluniau i adeiladu campws newydd, byddaf yn mewnbynnu ac yn cynghori'n uniongyrchol ar y lleoliadau sydd eu hangen ar gyfer pobl ifanc ag ASD."

A fyddech chi'n argymell y cymhwyster hwn i eraill sy'n gweithio ym maes AAA ac ADY? 

"Byddwn yn argymell y cymhwyster hwn i eraill sy'n gweithio ym maes addysg bellach ADY. Bydd y wybodaeth rwyf wedi dysgu yn gwella fy ymarfer ac roedd yn werth yr ynrwymiad amser ac egni."

Gwybodaeth Bellach

Cymhwyster awtistiaeth newydd i drawsnewid darpariaeth anghenion dysgu ychwanegol
15 Medi 2021

Prifysgol De Cymru
MA SEN/ALN (Awtistiaeth)

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.