Cyflwyno sgiliau dwyieithog i bob prentis a dysgwr

lowri morgans.png

Mae Dr Lowri Morgans yn gweithio fel Rheolwr Academaidd Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Yma mae'n siarad am y cynnydd a wnaed ar Cynllun Gweithredu Addysg Bellach a Phrentisiaethau Cyfrwng Cymraeg, a'r hyn sydd gan y dyfodol i’w gynnig. 

Yn mis Ionawr byddwn yn nodi dwy flynedd ers i’r Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, lansio’r Cynllun Gweithredu Addysg Bellach a Phrentisiaethau Cyfrwng Cymraeg

Mae’n gynllun uchelgeisiol sy’n amlinellu gweledigaeth i alluogi pob dysgwr a phrentis i gynnal neu ddatblygu ei sgiliau iaith Gymraeg gan gyfrannu at nod y Llywodraeth i greu miliwn o siaradwyr Cymraeg sy’n hyderus i ddefnyddio’u sgiliau Cymraeg yn eu bywydau bob dydd gan gynnwys yn y gweithle.

Yn ystod dwy flynedd gyntaf y cynllun mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol wedi gweithio mewn partneriaeth gyda darparwyr prentisiaethau a cholegau addysg bellach er mwyn dechrau ar y gwaith o ddatblygu mwy o gyfleoedd i ddysgwyr a phrentisiaid astudio trwy gyfrwng y Gymraeg a hefyd i ddefnyddio’u Cymraeg mewn cyd-destunau cymdeithasol.  

Mae nifer cyfyngedig o grantiau datblygu wedi eu dyfarnu er mwyn creu cynlluniau peilot yn y meysydd blaenoriaeth gan gynnwys Iechyd a Gofal, Gofal Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol. Gyda chyllideb addas, y bwriad dros y blynyddoedd nesaf ydy mynd ati i fuddsoddi mewn datblygu darpariaeth newydd ar raddfa helaethach ar draws Cymru gan ymestyn i feysydd megis Adeiladwaith, Amaeth, Busnes, Chwaraeon a Hamdden a’r Diwydiannau Creadigol. 

Mae nifer o adnoddau newydd wedi eu datblygu megis Prentis-Iaith, adnodd ar-lein sy’n cyflwyno sgiliau Cymraeg i brentisiaid, a’r Ap Gwasanaethau Cyhoeddus ar gyfer dysgwyr sy’n hyfforddi i ymuno â’r gwasanaethau brys. Yn ddiweddar ariannwyd prosiect arbenigwyr pwnc addysg bellach a phrentisiaethau i ddeall anghenion y sector yn well er mwyn comisiynu rhaglen o adnoddau newydd addas.   

Mae gwella sgiliau’r staff sydd eisoes yn gweithio yn y sector addysg bellach a phrentisiaethau yn amlwg yn flaenoriaeth ac mae’r Cynllun Cymraeg Gwaith ar y cyd â’r Ganolfan Dysgu Cymraeg a CholegauCymru, yn ogystal â’r cynllun hyfforddi a mentora a redir gan Ganolfan Sgiliaith, yn helpu adeiladu capasiti a chefnogi staff sydd eisoes yn gweithio yn y sector. Ond os ydym o ddifri am sicrhau bod pob dysgwr a phrentis yn y sector ôl-16 yn derbyn elfen o’u haddysg yn Gymraeg a dwyieithog, mae’n glir bod angen denu staff newydd gyda’r sgiliau ieithyddol angenrheidiol i’r sector hefyd a bod angen cyllideb ar gyfer gwireddu hyn.   

Mae’n wir i ddweud felly ein bod wedi gweld cynnydd addawol wrth wireddu amcanion tymor byr y Cynllun Gweithredu ac mai un o’r prif resymau dros hynny ydy ymateb y sectorau addysg bellach a phrentisiaethau i’r cynllun. O aelodaeth Bwrdd Strategol ôl-16 y Coleg sy’n cynnwys penaethiaid y colegau a chynrychiolwyr o’r darparwyr prentisiaethau, i swyddogion hyrwyddo’r Gymraeg yn y Colegau a’r pencampwyr yn y darparwyr prentisiaethau i’r dysgwyr a’r prentisiaid eu hunain – mae’r awydd i gynyddu’r ddarpariaeth Gymraeg a dwyieithog ar draws y sector ôl-16 yn amlwg. Y prif her ar gyfer y cyfnod nesaf ydy troi’r ewyllys da a’r gefnogaeth hynny mewn i gynnydd ystyrlon ac er mwyn gwireddu hynny mae angen cefnogaeth ac ewyllys gwleidyddol a buddsoddiad pwrpasol.   
 

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.