Hwb i adferiad Covid: Llywodraeth Cymru yn darparu arian ychwanegol ar gyfer cymorth dysgwyr ôl-16

pexels-charlotte-may-5966011 2.jpg

Mae ColegauCymru yn croesawu cyhoeddiad Llywodraeth Cymru y byddant yn darparu £33m i gefnogi dysgwyr mewn colegau a dysgwyr yn y chweched dosbarth ledled Cymru. Mae'r cyllid ychwanegol yn rhan o'r £150m mae Llywodraeth Cymru wedi’i ymrwymo i’r ymateb addysg i Covid19.

Bydd y cyllid yn cael ei rannu rhwng darparwyr addysg ôl-16, gyda £24.25m ar gyfer colegau addysg bellach ac £8.75m ar gyfer addysg chweched dosbarth mewn ysgolion.

Bydd yr arian yn cefnogi amser addysgu ychwanegol, mewn ystafelloedd dosbarth a chymorth un-i-un, y gellir ei deilwra i anghenion unigol dysgwyr llawn amser rhwng 16 ac 19 oed sy'n dechrau eu cyrsiau gyrsiau galwedigaethol, UG, Safon Uwch, mewn Coleg AB neu'r chweched dosbarth.

Cydnabydda Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ag Addysg, yr aflonyddwch i ddysgwyr a ddechreuodd addysg ôl-16 eleni, gan dynnu sylw at y trosglwyddiad rhagorol i ddysgu cyfunol ond gan nodi pwysigrwydd hanfodol dysgu wyneb yn wyneb mewn dosbarth neu yn yr ystafell ddarlithio gyda gweithiwr addysgu proffesiynol. Pwysleisiodd y Gweinidog hefyd effaith y pandemig ar ddysgwyr o'r cefndiroedd mwyaf difreintiedig a'r angen i gynorthwyo dysgwyr i ail-ymgysylltu â dysgu.

Dywedodd Prif Weithredwr ColegauCymru Iestyn Davies,

“Mae cymorth Llywodraeth Cymru wedi bod yn allweddol i gefnogi dysgwyr mewn colegau ac ysgolion. Bydd y cyllid sylweddol hwn, sydd ei angen yn fawr, yn helpu colegau a chweched dosbarth ysgolion i gynnig cefnogaeth wedi'i theilwra i bobl ifanc wrth iddynt fynd i addysg ôl-orfodol.

“Heb os, mae Covid19 wedi effeithio dysgwyr wrth iddynt drosglwyddo o addysg orfodol ac ymlaen i'r cam nesaf ar eu taith addysg. Fodd bynnag, mae ymrwymiad y llywodraeth i'w dysgu a'u lles yn golygu y byddant yn derbyn y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt i gymryd eu camau nesaf. Mae’n dyst i’r Gweinidog ac ymrwymiad y weinyddiaeth i ddarparu’r gefnogaeth sydd ei hangen.”

Gwybodaeth Bellach

Datganiad Llywodraeth Cymru
Hwb ariannol sylweddol i gefnogi cymorth wedi’i bersonoli i ddysgwyr
10 Mehefin 2021

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.