ColegauCymru yn diolch i Bethan Sayed MS am ei chefnogaeth

Bethan Sayed MS.jpg

Yn dilyn cyhoeddiad Plaid Cymru na fydd Bethan Sayed AS yn ceisio tymor arall yn Etholiad y Senedd ym mis Mai 2021, mae ColegauCymru yn bachu ar y cyfle hwn i ddiolch iddi am y gefnogaeth y mae hi wedi’i rhoi i’r sector addysg bellach yng Nghymru.

Yn eiriolwr cyson, mae Bethan wedi codi proffil sefydliadau addysg bellach ac wedi bod yn llais i golegau, gan herio Llywodraeth Cymru a'r Senedd yn y Cyfarfod Lawn a'r pwyllgor i fynd i'r afael yn well ag anghenion dysgwyr addysg bellach. Yn ymrwymedig i ymgysylltu, ceisiodd Bethan siarad â'r sector polisi addysg ôl-16, gan gynnal nifer o gyfarfodydd i archwilio syniadau ac atebion polisi.

Dywedodd Iestyn Davies, Prif Weithredwr ColegauCymru,

“Rydyn ni'n diolch i Bethan am helpu i roi llais i addysg bellach yn y Senedd ac am gydnabod a chefnogi'r achosion sy'n bwysig i'n colegau. Rydym yn dymuno'r gorau iddi ar gyfer y dyfodol."

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.