Dathlu Tiwtoriaid yng Ngwobrau Ysbrydoli!

Neithiwr fe wnaeth Sefydliad Dysgu a Gwaith Cymru ddathlu llwyddiannau tiwtoriaid yng Ngwobrau Ysbrydoli! mewn blwyddyn sydd wedi bod yn arbennig o heriol. 
  
Mae'r Gwobrau'n ddathliad o'r effaith y mae tiwtoriaid yn ei chael wrth gynorthwyo dysgwyr sy'n oedolion i gyflawni eu potensial a thrawsnewid eu bywydau. Cyflwynwyd enwebiadau ar gyfer tiwtoriaid a mentoriaid rhagorol yng Nghymru y mae eu hymrwymiad, eu gwybodaeth a'u sgiliau wedi rhoi anogaeth i ddysgwyr ddilyn eu nodau a'u breuddwydion a'r hyder i drawsnewid eu bywydau. 
  
Dywedodd Iestyn Davies, Prif Weithredwr ColegauCymru,

“Mae ColegauCymru yn falch o gefnogi’r digwyddiad pwysig hwn ac rydym yn anfon ein llongyfarchiadau cynhesaf at enillwyr ac enwebeion y gwobrau.”

Gwybodaeth Bellach

Gwyliwch y Seremnoni Wobrwyo
Gwobrau Ysbrydoli! Tiwtoriaid 2021

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.