Dathlu gwerth prentisiaethau yng Nghymru

studentapprentices.jpeg

Mae ColegauCymru yn falch o gefnogi Wythnos Prentisiaethau Llywodraeth Cymru a gynhelir rhwng 7-13 Chwefror 2022. 

Mae’r dathliad blynyddol hwn o wythnos brentisiaethau yn hyrwyddo’r gwerth y maent yn ei gynnig i ddysgwyr a chyflogwyr ledled Cymru. Bydd cyflogwyr yn cael cyfle i hyrwyddo gwaith gwych eu prentisiaid, wrth dynnu sylw at y manteision niferus y maent yn eu cynnig i'w busnes. Bydd prentisiaid, ar bob cam o'u dysgu hefyd yn cael eu dathlu. 

Dywedodd Cyfarwyddwr Datblygu ColegauCymru Kelly Edwards:

“Mae Wythnos Prentisiaethau Cymru yn gyfle gwych i gydnabod gwerth rhaglenni prentisiaeth i bob agwedd ar fywyd Cymru a’u bod yn rhan hanfodol o adferiad economaidd a ffyniant Cymru mewn byd ôl-Covid. Rydym yn falch iawn o hyrwyddo gwaith caled dysgwyr, ymarferwyr a busnesau fel ei gilydd am y cyfraniad gwerthfawr y maent yn ei wneud.” 

Ychwanegodd Dr Barry Walters, Pennaeth Coleg Sir Benfro, a Chadeirydd Grŵp Strategol Dysgu Seiliedig ar Waith ColegauCymru:

“Mae ColegauCymru heddiw wedi croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i fuddsoddi £366m mewn rhaglenni prentisiaeth ac wedi’i galonogi gan eu cydnabyddiaeth o’r gwerth a ddaw yn eu sgil. Bydd y buddsoddiad yn helpu i adeiladu economi sy’n seiliedig ar egwyddorion gwaith teg, cynaliadwyedd a diwydiannau a gwasanaethau’r dyfodol, gan gynyddu cyfleoedd i bobl o bob oed a chefndir ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy yn y gweithle ac i wella eu bywydau.” 

Gwybodaeth Bellach  

Datganiad i'r Wasg Llywodraeth Cymru 
Wythnos Prentisiaethau Cymru 2022: Gweinidog yn ymrwymo £366 miliwn i ddarparu 125,000 o brentisiaethau pob oed yng Nghymru 
7 Chwefror 2022 

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.