Dathlu technoleg ddigidol mewn addysg alwedigaethol

Week of Voc Tech1.jfif

 hi’n wythnos VocTech yr wythnos hon, roedd hi’n amserol i ni edrych nôl ar ein prosiect VocTech ni fel ColegauCymru yn ystod Haf 2020. Wythnos VocTech yw’r unig ddigwyddiad y DU gyda ffocws ar rôl technoleg ddigidol mewn addysg alwedigaethol.

Wrth i ni addasu i fyw ym myd Covid, roedd uwchsgilio staff, creu cyfleoedd i ddatblygu ar y cyd a sicrhau bod dysgwyr yn cadw cyswllt gyda’u darpar weithleoedd yn bwysig i ni, a dyna oedd prif amcanion ein prosiect VocTech.

Un darn allweddol sydd ar gael i chi ddefnyddio o hyd yw’n VocTalks. Gyda sefydliadau addysg yn dysgu o bell a dim cyfle mynychu lleoliadau gwaith, y bwriad oedd sicrhau bod gan fyfyrwyr gyswllt gyda’r diwydiannau galwedigaethol o hyd.

Yn ystod yr wythnos, cynhaliwyd sgyrsiau gyda chyn-ddysgwyr sydd bellach yn gweithio yn y sectorau Chwaraeon, Arlwyo, Busnes, Adeiladau a’r Celfyddydau Perfformio. Cynhaliwyd y VocTalks ar ffurf gweminarau byw, ac mae 20 munud gorau pob sgwrs ar gael ar ein sianel YouTube.

Yn trafod gyda 10 unigolyn sy’n gyn-fyfyrwyr mewn colegau Addysg Bellach yng Nghymru, sicrhaodd ein cyflwynwyr bod gwledd o arweiniad a chyngor yn dod o’r sesiynau o bwysigrwydd bod yn gynnar ar gyfer cyfweliad i sut i ddelio â sefyllfaoedd o fod o dan bwysau.

Er mwyn clywed ein VocTalks, edrychwch ar ein tudalen YouTube: VocTalks - YouTube ac er mwyn dysgu mwy am wythnos VocTech, gan gynnwys ymuno gyda’r sesiynau byw, edrychwch ar Welcome to the Week of VocTech | 15 - 19 November 2021.

Gwybodaeth Bellach

Cysylltwch â'r Swyddog Prosiect Nia.Brodrick@colegaucymru.ac.uk am fwy o wybodaeth.

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.