Heriau ar gyfer blwyddyn academaidd 2020-21 - Rhaid inni ganolbwyntio ar addysgu a dysgu ac nid asesu yn unig

pexels-louis-bauer-249360.jpg

Mae ColegauCymru yn nodi gyda diddordeb y cynigion gan Cymwysterau Cymru a chynnwys yr adroddiad interim a gyhoeddwyd gan Louise Casella mewn ymateb i gyhoeddiad y Gweinidog Addysg ar Adolygiad Annibynnol o drefniadau haf 2020 ar gyfer dyfarnu graddau, ac ystyriaethau ar gyfer haf 2021. 

Rhaid i'r ffocws gydbwyso barn ar addysgu a dysgu ac nid asesu yn unig. Mae ColegauCymru yn annog y Gweinidog i sicrhau bod penderfyniadau ar gyfer arholiadau ac asesiad haf yn seiliedig ar yr hyn sydd wedi'i ddysgu yn ogystal â sut a beth sy'n cael ei asesu. 

Ar hyn o bryd mae ColegauCymru yn ystyried ein hymateb i'r Adolygiad a'r canllawiau a baratowyd ar gyfer y Gweinidog gan Cymwysterau Cymru. Nodwn fod galw am raglen a luniwyd yn ofalus yn seiliedig ar gydweithredu a chydweithio yn y ddau achos a bod yn rhaid ei derbyn fel y ffordd ymlaen. 

Dywedodd Cadeirydd ColegauCymru, Dafydd Evans,

“Amharwyd ar ddarpariaeth addysg, ar gyfer rhaglenni galwedigaethol ac academaidd, mewn ffordd ddigynsail. Rhaid i hyn, yn ogystal â goblygiadau ymarferol cynnal arholiadau ac asesiadau gael dylanwad ar sut a phryd y mae asesiad yn digwydd.” 

Mae ColegauCymru yn ailadrodd y pwyntiau a wnaed i'r Adolygiad a'r gweithgorau amrywiol sy'n edrych ar ddod o hyd i ateb ymarferol. Sef: 

  • Nid aethpwyd i'r afael yn llawn ag effaith yr aflonyddwch i flwyddyn academaidd 2019/20. 
  • Yn ystod y flwyddyn gyfredol, sy'n llai na hanner tymor oed, gwelwyd tarfu ar addysgu eisoes heb unrhyw fai ar y staff a'r dysgwyr. 
  • Bydd llwyddiant unrhyw liniaru ac addasiadau a fabwysiadwyd ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol yn cael eu barnu yn ôl y ffordd y maent yn helpu neu'n rhwystro dilyniant dysgwyr i'r cam nesaf o addysg ac i mewn i waith - rhaid i unrhyw gynllun fod yn hyblyg ac yn ymatebol i'r hyn sydd o'n blaenau a'r tebygolrwydd o darfu pellach ar addysgu a dysgu. 
  • Bydd angen cefnogaeth barhaus i ddysgwyr i alluogi eu hysgolion, colegau a phrifysgolion i'w cynorthwyo dros y tymor canolig, yn ogystal â rôl i gyflogwyr wrth sicrhau y gellir cwblhau cymwysterau masnach. 

Ychwanegodd Prif Weithredwr ColegauCymru Iestyn Davies,

“Rydym yn parhau i annog y Gweinidog i wrando ac ymateb yn llawn i ganfyddiadau ac argymhellion yr Adolygiad Annibynnol. Rhaid i'r Gweinidog allu gwneud penderfyniad hyddysg er budd dysgwyr yng Nghymru, yng nghyd-destun cymwysterau academaidd a galwedigaethol.” 

Bydd ColegauCymru yn parhau i weithio'n agos gyda Cymwysterau Cymru, yr Adolygiad annibynnol a chydweithwyr Llywodraeth Cymru wrth i ni geisio dod o hyd i ffordd deg o reoli asesiad 2020-21 ar gyfer rhaglenni academaidd a galwedigaethol. Fel bob amser, bydd budd gorau dysgwyr wrth wraidd ein penderfyniadau. 

Gwybodaeth Bellach

Datganiad i’r Wasg Llywodraeth Cymru 
Y diweddaraf gan y Gweinidog Addysg ar gymwysterau yng Nghymru 
29 Hydref 2020 

Datganiad Cabinet Llywodraeth Cymru 
Datganiad Ysgrifenedig: Cyngor i lywio’r gweithredu o ran cymwysterau yn 2021 
29 Hydref 2020 

Polisi a Strategaeth Llywodraeth Cymru 
Adolygiad annibynnol o drefniadau haf 2020 ar gyfer dyfarnu graddau, ac ystyriaethau ar gyfer haf 2021 
29 Hydref 2020 

Datganiad i’r Wasg Cymwysterau Cymru 
Cymwysterau Cymru yn argymell ffordd ymlaen ar gyfer dyfarnu cymwysterau yn haf 2021 
29 Hydref 2020

Datganiad Cabinet Llywodraeth Cymru 
Datganiad Ysgrifenedig: Adolygiad annibynnol o’r trefniadau ar gyfer dyfarnu 
graddau cyfres arholiadau haf 2020, a’r ystyriaethau ar gyfer 2021 

28 Awst 2020  

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.