ColegauCymru yn croesawu newidiadau i bolisi gorchuddion wyneb mewn colegau ac ysgolion

pexels-lucian-petronel-potlog-3991782 (1).jpg

Mae ColegauCymru heddiw yn croesawu cyhoeddiad y Gweinidog Addysg yn cadarnhau y bydd disgwyl i staff a dysgwyr mewn ysgolion uwchradd a cholegau wisgo gorchuddion wyneb ym mhob ardal y tu allan i'r ystafell ddosbarth ac ar gludiant ysgol/coleg.

Mae'r sector addysg bellach eisoes yn dilyn canllawiau gwirfoddol ar gyfer defnydd gorchuddion wyneb oherwydd ystod oedran eang ein dysgwyr sy'n oedolion ifanc ac oedolion. Mae'n hanfodol bod gan ddysgwyr, staff a rhieni hyder yn ein sefydliadau addysg  ac mae unrhyw gamau i helpu i wneud yr amgylchedd ddysgu mor ddiogel â phosibl i'w croesawu.

Dywedodd Prif Weithredwr ColegauCymru Iestyn Davies,

“Mae'r sector addysg bellach bob amser yn dilyn canllawiau a osodwyd gan Lywodraeth Cymru a Iechyd Cyhoeddus Cymru. Diogelwch dysgwyr a staff yw ein prif flaenoriaeth yn ystod y cyfnod heriol hwn.”
 

Gwybodaeth Bellach

Datganiad i’r Wasg Llywodraeth Cymru
Newidiadau i’r polisi ar orchuddion wyneb mewn ysgolion a cholegau
23 Tachwedd 2020
 
Datganiad Ysgrifenedig
Y wybodaeth ddiweddaraf am ddefnyddio gorchuddion wyneb mewn ysgolion a cholegau
23 Tachwedd 2020

Canllawiau Llywodraeth Cymru wedi’u diweddaru ar gyfer addysg bellach
Canllawiau ar weithredu’n ddiogel o fis Medi 2020 ymlaen (fersiwn 2.4)
23 Tachwedd 2020
 

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.