Penodiad Prif Weithredwr ColegauCymru i swydd newydd

My project.jpg

Mae’n bleser gennym longyfarch ein Prif Weithredwr Iestyn Davies ar ei benodiad diweddar yn Pro Is-ganghellor ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.

Yn y rôl allweddol newydd hon, bydd Iestyn yn gyfrifol am sefydlu system gyd-ffederal integredig newydd sy’n dod â Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, Prifysgol Cymru a Cholegau Addysg Bellach ynghyd.

Dywedodd Cadeirydd ColegauCymru Guy Lacey,

“Ar ran ein haelodaeth, hoffwn longyfarch Iestyn ar y penodiad newydd cyffrous hwn. Rydym yn ddiolchgar am y saith mlynedd o wasanaeth y mae Iestyn wedi’u rhoi, gan helpu i lunio sector addysg bellach cryfach i Gymru, yn fwyaf nodedig yng nghyd-destun yr heriau diweddar a ddaeth yn sgil Pandemig Covid19.”

Ychwanegodd Yr Athro Medwin Hughes Is-Ganghellor Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant,

“Rydym yn falch iawn o groesawu Iestyn. Mae ganddo gyfoeth o arbenigedd o’r sector addysg bellach yng Nghymru, a swyddi arweinyddol allweddol eraill. Mae’n ymuno â ni ar adeg gyffrous iawn i’r Brifysgol, pan edrychwn i’r dyfodol ym mlwyddyn ein daucanmlwyddiant, ac wrth i ni gynllunio i ddyfnhau ein cydweithrediad â’r sector addysg bellach.”

Ychwanegodd Iestyn ymhellach,

“Rwyf wedi mwynhau fy nghyfnod yn y sefydliad yn fawr iawn ac rwy’n falch o weld sut mae fy nghydweithwyr a’n haelodau wedi dod at ei gilydd i lywio sawl her, yn enwedig yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Rwy’n teimlo bod yr amser yn iawn i drosglwyddo’r baton.

“Fel rhan o’r rôl newydd, byddaf yn darparu arweinyddiaeth strategol a gweithredol. Un agwedd allweddol fydd gweithio gyda rhwydwaith o golegau addysg bellach i ddarparu mynediad at ddysgu technegol a galwedigaethol lefel uwch ledled Cymru.”

Yn dilyn ymgynghoriad manwl gyda Fforwm y Penaethiaid, bydd ColegauCymru nawr yn cychwyn ar broses recriwtio i benodi’r Prif Weithredwr nesaf. Mae Bwrdd yr Ymddiriedolwyr annibynnol yn gobeithio cyhoeddi mwy o fanylion am y broses yn yr wythnosau nesaf.

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.