Her codi arian ar gyfer Marie Curie

Mae staff ColegauCymru wedi bod yn awyddus i ymgymryd â her tîm, i ddod â chydweithwyr ynghyd yn ystod y cyfnod anodd hyn, ac i godi arian mawr ei angen ar gyfer elusen haeddiannol.

Ac felly, fe wnaethon ni gychwyn ar #Her344Challenge gyda'r nod o gyd-gerdded, rhedeg a beicio'r pellter rhwng ein holl golegau, 344 milltir! Rhoesom sialens i'n hunain i gyflawni'r sialens o fewn 7 diwrnod.

Gan ddechrau ddydd Llun 18fed Mai cychwynnodd ein llwybr rhithwir ym Merthyr Tudful yng Nghymoedd De Cymru gan orffen yng Ngogledd Ddwyrain Cymru yng Ngholeg Cambria, gan ddilyn y llwybr canlynol:

Y Coleg Merthyr Tudful - Coleg Gwent – Addysg Oedolion Cymru (Caerdydd) - Coleg Catholig Dewi Sant (Caerdydd) - Coleg Caerdydd a’r Fro - Coleg y Cymoedd - Coleg Penybont - Grŵp Colegau NPTC - Coleg Gŵyr Abertawe - Coleg Sir Gâr - Coleg Sir Benfro - Coleg Ceredigion - Grŵp Llandrillo Menai - Coleg Cambria.

Roedd yr her yn gyfle gwych i gefnogi ein helusen ddewisol, Marie Curie. Mae'r elusen hon yn gwneud gwaith gwych wrth iddynt ddarparu gofal a chefnogaeth i bobl sy'n byw gydag unrhyw salwch angheuol, a'u teuluoedd. Y llynedd fe wnaethant ofalu am dros 40,000 o bobl ledled y DU. Yn ystod yr amseroedd anodd hyn, pan bod ffrydiau incwm arferol elusennau fel Marie Curie yn dibynnu ar i gyflawni eu gwaith hanfodol bron wedi dod i ben, roeddem yn teimlo ei bod yn bwysicach nag erioed eu cefnogi gyda'n her.

I ddechrau, gwnaethom osod targed codi arian o £200, ond rydym yn falch iawn ein bod wedi cyrraedd dros £1,000 (ac yn dal i gyfrif). Fe wnaethom hefyd ragori ar ein targed o 344 milltir, gan gyrraedd 435.16 milltir dros y 7 diwrnod.

Hoffai ColegauCymru ddiolch yn fawr iawn i bawb sydd wedi rhoi’n hael ac i’n holl gydweithwyr a gymerodd ran. Diolch yn arbennig hefyd i Jon Davies, aelod newydd o dîm ColegauCymru a gynigiodd y syniad codi arian ac a drefnodd yr her a'r elfen codi arian.

Gyda chymaint mwy o bobl yn dal i fod yn awyddus i gyfrannu at achos gwych hwn, rydym wedi penderfynu cadw'r dudalen rhoi ar agor ychydig yn hirach. Os hoffech gyfrannu i'r elusen haeddiannol iawn, Marie Curie, ewch i'r ddolen isod.

TUDALEN ELUSEN

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.