ColegauCymru wedi'i achredu fel Cyflogwr Cyflog Byw

Taking notes and working on laptop.jpg

Mae ColegauCymru yn falch iawn o gael ei achredu fel cyflogwr Cyflog Byw. 

Logo Cyflogwr Cyflog BywTrwy dalu'r Cyflog Byw Go Iawn, mae cyflogwyr yn gwirfoddoli i sicrhau bod eu gweithwyr yn gallu ennill cyflog sy'n ddigon i fyw arno. Mae'r Cyflog Byw i Gymru yn ymdrech gydweithredol rhwng y Living Wage Foundation a Cynnal Cymru i hyrwyddo buddion achredu Cyflog Byw i gyflogwyr, gweithwyr a'r economi. 
  
Dywedodd Prif Weithredwr ColegauCymru Iestyn Davies,

“Rydym yn falch o fod yn ymuno â theulu cynyddol o gyflogwyr Cyflog Byw yn y sector addysg yng Nghymru. 
 
Mae cydweithredu yn un o'n gwerthoedd yma yng ColegauCymru. Rydym wedi ymrwymo i ddiwylliant o waith tîm, partneriaeth a chydweithio i gyflawni ein gweledigaeth o addysg bellach o'r radd flaenaf. Heb weithlu sy'n cael ei dalu'n deg am y gwaith maen nhw'n ei wneud, ni fyddai'n bosibl i ni gyflawni hyn."

Mae'r Cyflog Byw Go Iawn yn seiliedig ar gostau byw a dyma'r unig gyfradd gyflog yn y DU sy'n cael ei thalu'n wirfoddol gan dros 7,000 o fusnesau yn y DU sy'n credu bod eu staff yn haeddu cyflog sy'n diwallu anghenion bob dydd, ac mae dros 300 ohonynt yng Nghymru. 

Gwybodaeth Bellach

Cyflog Byw yng Nghymru

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.